Ymgynghoriad

Gwefru cerbydau trydan

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ystyried strategaeth gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru.

 

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed eich barn ar gynnydd yn erbyn y naw cam gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.

 

Cyflwyno eich barn

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

 

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.

 

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 14 Rhagfyr 2022.

 

Cyfeiriwch at dudalen yr ymchwiliad i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am yr ymchwiliad.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565