Ymgynghoriad
Diwygio’r Dreth Gyngor
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 17 Hydref 2022 a Dydd Gwener, 11 Tachwedd 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CTR 01 - Sefydliad Siartredig Trethu a’i Grŵp Diwygio Treth Incymau Isel (Saesneg yn unig) PDF 680 KB
- CTR 02 - Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig) PDF 680 KB Gweld fel HTML (3) 38 KB
- CTR 03 - Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (Saesneg yn unig) PDF 221 KB
- CTR 04 - Fairer Share (Saesneg yn unig) PDF 196 KB
- CTR 05 - Ysgol Busnes Bangor (Saesneg yn unig) PDF 154 KB
- CTR 06 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 152 KB
- CTR 07 - Y Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) PDF 100 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn
cynnal ymchwiliad i ddiwygio’r dreth gyngor, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cynigion
polisi a deddfwriaethol sydd wedi’u nodi yn nogfen ymgynghori Llywodraeth
Cymru, Treth Gyngor Decach,
a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2022. Bydd y Pwyllgor yn archwilio’r effaith y
gallai’r cynigion ei chael ar gyllid a threfniadau gweinyddu llywodraeth leol,
a’r potensial ar gyfer symleiddio fframwaith disgowntiau a gostyngiadau’r dreth
gyngor.
Yn benodol, bydd
yr ymchwiliad yn ystyried y materion a ganlyn:
>>>>
>>>Effaith
bosibl ailbrisio’r dreth
gyngor a diwygio bandiau’r
dreth gyngor ar gyllid a threfniadau gweinyddu llywodraeth leol.
>>>Manteision
ac anfanteision posibl ailbrisio eiddo yn rheolaidd ar drefniadau gweinyddu
llywodraeth leol, a’r effaith ar y rhai sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor.
>>>Effeithiolrwydd
y fframwaith ar gyfer disgowntiau ac eithriadau mewn perthynas â’r dreth
gyngor, a sut y gellid datblygu a gwella’r system.
>>>Yr
achos dros newid Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sy’n rhoi
cymorth i’r
aelwydydd incwm isel sydd fwyaf agored i niwed, a’r posibiliadau o ran gwella’r
system.
<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565