Ymgynghoriad
Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 18 Hydref 2022 a Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- DPS1 Tirweddau Cymru PDF 450 KB Gweld fel HTML (1) 18 KB
- DPS2 Coleg Pen-y-bont ar Ogwr (Saesneg yn unig) PDF 439 KB Gweld fel HTML (2) 10 KB
- DPS3 Chwaraeon Cymru PDF 428 KB Gweld fel HTML (3) 14 KB
- DPS4 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 665 KB Gweld fel HTML (4) 26 KB
- DPS5 Cymwysterau Cymru (Saesneg yn unig) PDF 429 KB Gweld fel HTML (5) 9 KB
- DPS6 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (Saesneg yn unig) PDF 438 KB Gweld fel HTML (6) 13 KB
- DPS7 Trafnidiaeth Cymru (Saesneg yn unig) PDF 442 KB Gweld fel HTML (7) 12 KB
- DPS8 Dr Alison Parken, Ymchwilydd, Ysgol Busnes Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 433 KB Gweld fel HTML (8) 8 KB
- DPS9 Gwasanaeth Tân ac Achub Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 420 KB Gweld fel HTML (9) 6 KB
- DPS10 Sara MacBride-Stewart, Darllenydd ym maes Iechyd, Meddygaeth (Saesneg yn unig) PDF 433 KB Gweld fel HTML (10) 9 KB
- DPS11 Oxfam Cymru PDF 430 KB Gweld fel HTML (11) 10 KB
- DPS12 TUC Cymru (Saesneg yn unig) PDF 442 KB Gweld fel HTML (12) 13 KB
- DPS13 ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 436 KB Gweld fel HTML (13) 11 KB
- DPS14 Cymdeithas Cludiant Cymunedol (Saesneg yn unig) PDF 437 KB Gweld fel HTML (14) 14 KB
- DPS15 Cyngor Celfyddydau Cymru PDF 468 KB Gweld fel HTML (15) 20 KB
- DPS16 Llyfrgell Genedlaethol Cymru PDF 601 KB Gweld fel HTML (16) 7 KB
- DPS17 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 430 KB Gweld fel HTML (17) 11 KB
- DPS 18 Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) (Saesneg yn unig) PDF 973 KB Gweld fel HTML (18) 40 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith yn ymgymryd â darn byr o waith ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus.
Mae gwaith y Pwyllgor yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru, Parodrwydd
y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 (Gorffennaf 2022), a
ddaeth i’r casgliad bod ansicrwydd amlwg ynghylch galllu cyrff cyhoeddus i
gyrraedd sero net erbyn 2030.
Gan adeiladu ar
waith Archwilio Cymru, hoffai’r Pwyllgor gael barn am y canlynol:
>>>>
>>> rôl Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cyrff
cyhoeddus i gwblhau’r pum cam a nodwyd yn adroddiad Archwilio Cymru;
>>> defnyddio Statws
carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector
cyhoeddus Cymru fel ffordd o roi cyfeiriad strategol i gyrff cyhoeddus;
>>> y cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus yn y
meysydd gweithredu â blaenoriaeth a nodir yn y ddogfen: caffael cynaliadwy, adeiladau
sero net, symudedd a thrafnidiaeth, a defnydd tir;
>>> y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru
i sicrhrau cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth gan gynnwys unrhyw fylchau.
<<<<
Cyfeiriwch at dudalen yr ymchwiliad i gael
rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am yr ymchwiliad.
Cyflwyno eich
barn
Hoffem i chi
gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen
ar-lein.
Mae templed
y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei
anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed
hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.
Er ein bod yn
croesawu unrhyw ymatebion a phob ymateb, mae'r ymgynghoriad wedi'i anelu at
gyrff cyhoeddus.
Y dyddiad cau i
gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 9 Tachwedd 2022.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565