Ymgynghoriad
Gwasanaethau endosgopi
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 21 Hydref 2022 a Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- EN 01 - Coleg Brenhinol y Patholegwyr (Saesneg yn unig) PDF 233 KB
- EN 02 - Tenovus Cancer Care (Saesneg yn unig) PDF 324 KB
- EN 03 - Crohns & Colitis UK PDF 266 KB
- EN 04 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 581 KB
- EN 05 - Grŵp Rheoli Hyfforddiant Endosgopi, Addysg a Gwella Iechyd Cymru PDF 422 KB
- EN 06 - Cyted (Saesneg yn unig) PDF 752 KB
- EN 07 - Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- EN 08 - Rhaglen Endosgopi Cenedlaethol PDF 359 KB
- EN 09 - Joint Advisory Group on GI Endoscopy (Saesneg yn unig) PDF 273 KB
- EN 10 - Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru PDF 317 KB
- EN 11 - Olympus UK & Ireland (Saesneg yn unig) PDF 194 KB
- EN 12 - Rhwydwaith Canser Cymru PDF 589 KB
- EN 13 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 262 KB
- EN 14 - Cancer Research UK (Saesneg yn unig) PDF 343 KB
- EN 15 - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 288 KB
- EN 16 - Institute of Biomedical Science (Saesneg yn unig) PDF 399 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
Diben yr ymgynghoriad
Fel dilyniant i ymchwliad i wasanaethau endosgopi Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd yn 2019, mae Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd yn cynnal ymchwiliad byr i
ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen i weithredu'r cynllun
gweithredu endosgopi cenedlaethol, i leihau amseroedd aros, ac yn y pen
draw i wella canlyniadau a chyfraddau goroesi ar gyfer cleifion.
Cylch gorchwyl
Yn benodol, mae'r
Pwyllgor yn ystyried:
>>>>
>>>Yr
effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar ddarparu gwasanaethau endosgopi a rhoi’r
cynllun
gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, a goblygiadau hwn i ganlyniadau
cleifion a chyfraddau goroesi.
>>>Y
flaenoriaeth a roddir i wasanaethau endosgopi yn y rhaglen
i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd Llywodraeth Cymru, gan
gynnwys pwy sy’n gyfrifol am gyflawni gwelliannau drwy ad-drefnu gwasanaethau a
modelau gofal newydd (gan gynnwys theatrau endosgopi ychwanegol, canolfannau
diagnostig ac unedau rhanbarthol), a sut y bydd gwasanaethau endosgopi yn rhan
o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser newydd (y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi
yn hydref 2022).
>>>Materion
yn ymwneud ag adfer a gwella perfformiad o ran amseroedd aros, gan gynnwys:
lleihau amseroedd aros am brofion a delweddu diagnostig i wyth wythnos erbyn
gwanwyn 2024, a chymorth i bobl sy'n aros am brofion ac apwyntiadau dilynol;
maint y rhestr aros weithredol ar gyfer yr holl gleifion mewnol ac achosion
dydd presennol sy'n aros am driniaethau endosgopig (yn ôl modd); i ba raddau y
mae gweithgarwch brys yn effeithio ar gapasiti gofal a gynlluniwyd, ac a oes
digon o ddata i ddeall effaith achosion brys; a yw cleifion risg uchel sydd
angen gweithdrefnau endosgopig gwyliadwriaeth barhaus yn cael eu cynnwys yn y
modelau cynllunio galw a chapasiti presennol; y posibiliadau ar gyfer cynyddu'r
gwersi a ddysgwyd o fentrau rhestrau aros blaenorol, fel gosod gwaith ar
gontractau mewnol, gosod gwaith ar gontractau allanol, neu unedau symudol; a'r
hyn y mae'r modelu galw a chapasiti presennol yn ei ddweud wrthym ynghylch pryd
y gellir cyflawni sefyllfa gynaliadwy yn realistig.
>>>Pa
rwystrau sydd i gyflawni achrediad gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd ar
Endosgopi Gastroberfeddol, gan gynnwys a yw byrddau iechyd yn buddsoddi
digon o adnoddau i ddatblygu’r cyfleusterau a’r seilwaith ar gyfer gwasanaethau
endosgopi, gwasanaethau dadheintio, a’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran
ehangu’r gweithlu endosgopi.
>>>Y
sefyllfa bresennol o ran gwneud yn fawr o’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn
(h.y. cynyddu sensitifrwydd a phrofion o
ran oedran) a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o'r DU.
>>>Profiadau
pobl iau a rhai sydd yn y perygl mwyaf o ddatblygu canser y coluddyn (h.y. y
rhai sydd â syndrom Lynch), ac ymdrechion i roi diagnosis i ragor o gleifion yn
gynnar.
>>>Mynediad
gofal cychwynnol at Brofion Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) ar draws gwahanol
fyrddau iechyd ar gyfer cleifion nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer
atgyfeiriad llwybr amheuaeth o ganser, a sut mae’n cael ei ddefnyddio i helpu
gwasanaethau i flaenoriaethu cleifion ac i haenu atgyfeiriadau yn ôl risg
(trawsnewid cleifion allanol).
<<<
Casglu
tystiolaeth
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan ystod amrywiol o brofiadau, anghenion a
safbwyntiau.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau,
gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 16 Mis Rhagfyr 2022.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A yw
eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os
ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch
gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
>>>Cadarnhad
a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch
tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad
o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant,
priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Sut i roi eich
barn
I roi eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at: SeneddIechyd@senedd.cymru, neu
drwy'r post at
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.