Ymgynghoriad
Galw am dystiolaeth ar argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 11 Hydref 2022 a Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- SR1 Unigol 1 [Saesneg yn unig] PDF 577 KB Gweld fel HTML (1) 6 KB
- SR2 Lee Waters AS [Saesneg yn unig] PDF 583 KB Gweld fel HTML (2) 6 KB
- SR3 Unigol 2 [Saesneg yn unig] PDF 584 KB Gweld fel HTML (3) 6 KB
- SR4 Unigol 3 [Saesneg yn unig] PDF 586 KB Gweld fel HTML (4) 6 KB
- SR5 Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol [Saesneg yn unig] PDF 596 KB Gweld fel HTML (5) 9 KB
- SR6 Comisiwn Etholiadol PDF 591 KB Gweld fel HTML (6) 8 KB
- SR7 Jane Dodds AS PDF 600 KB Gweld fel HTML (7) 15 KB
- SR8 Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd [Saesneg yn unig] PDF 72 KB
- SR9 Laura McAllister a Paul Silk [Saesneg yn unig] PDF 607 KB Gweld fel HTML (9) 9 KB
- SR10 Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd PDF 161 KB
- SR11 Unigol 4 [Saesneg yn unig] PDF 584 KB Gweld fel HTML (11) 6 KB
- SR12 Llywydd & Dirprwy Lywydd PDF 135 KB
- SR13 Comisiwn y Senedd PDF 208 KB
- SR14 Llywodraeth Cymru PDF 225 KB
- Pecyn ymgynghori PDF 4 MB
Diben yr ymgynghoriad
Gwahoddodd Pwyllgor Busnes y Senedd safbwyntiau
i lywio ei waith o ystyried pedwar argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r
Senedd.
Gwnaed yr
argymhellion hyn gan y Pwyllgor Diben Arbennig yn ei adroddiad ym mis Mai 2022,
Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i
bobl Cymru, i lywio cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar
Ddiwygio'r Senedd.
Roedd y pedwar
argymhelliad y gwahoddodd y Pwyllgor Busnes safbwyntiau arnynt yn ymwneud â:
>>>>
>>>
maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy (argymhelliad 4);
>>>
nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy (argymhelliad 5);
>>> y
nifer o Gomisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy (argymhelliad 6);
>>> y
canlyniadau pe bai Aelod yn newid eu plaid wleidyddol pan fydd wedi cael ei
ethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig (argymhelliad 10).
<<<<
Gofynnodd
Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Busnes ddod â’r gwaith o ystyried yr
argymhellion hyn i ben yn ystod mis Tachwedd 2022 er mwyn llywio ei waith o
baratoi’r ddeddfwriaeth berthnasol. Felly, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
safbwyntiau oedd dydd Mawrth 1 Tachwedd 2022. Croesawodd y Pwyllgor safbwyntiau
ar y pedwar argymhelliad neu ddim ond rhai ohonynt drwy ei ffurflen
ymgynghori ar-lein.
Gellir gweld
yr ymatebion i'r ymgynghoriad uchod.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgorau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Email: pwyllgorau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565