Ymgynghoriad
Ymchwiliad i effaith costau cynyddol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 1 Medi 2022 a Dydd Iau, 15 Medi 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- IIC 01 Celf a Busnes Cymru (Saesneg yn unig) PDF 125 KB Gweld fel HTML (1) 14 KB
- IIC 02 Cyngor Celfyddydau Cymru PDF 352 KB
- IIC 03 Community Leisure UK Wales (Saesneg yn unig) PDF 252 KB
- IIC 04 Creu Cymru (Saesneg yn unig) PDF 213 KB
- IIC 05 Hafren PDF 516 KB Gweld fel HTML (5) 37 KB
- IIC 06 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 488 KB Gweld fel HTML (6) 10 KB
- IIC 07 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 198 KB Gweld fel HTML (7) 7 KB
- IIC 08 Creu Cerddoriaeth (Saesneg yn unig) PDF 207 KB Gweld fel HTML (8) 5 KB
- IIC 09 Mudiad Meithrin PDF 454 KB Gweld fel HTML (9) 22 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IIC 10 Ymddiriedolaeth Lleoliad Cerddoriaeth (Saesneg yn unig) PDF 734 KB
- IIC 11 PACEY (Saesneg yn unig) PDF 457 KB Gweld fel HTML (12) 17 KB
- IIC 12 Clybiau Plant Cymru kids' Clubs PDF 190 KB Gweld fel HTML (13) 33 KB
- IIC 13 Chwaraeon Cymru PDF 254 KB Gweld fel HTML (14) 45 KB
- IIC 14 Nofio Cymru (Saesneg yn unig) PDF 687 KB
- IIC 15 Merched y Wawr PDF 230 KB Gweld fel HTML (16) 16 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IIC 16 Ffederasiwn Busnesau Bach (Saesneg yn unig) PDF 608 KB Gweld fel HTML (18) 24 KB
- IIC 17 Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 300 KB Gweld fel HTML (19) 20 KB
- IIC 18 Ecwiti Cymru (Saesneg yn unig) PDF 291 KB Gweld fel HTML (20) 27 KB
- IIC 19 Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 807 KB
- IIC 20 Bywydau Creadigol (Saesneg yn unig) PDF 225 KB
- IIC 21 UK Music (Saesneg yn unig) PDF 529 KB Gweld fel HTML (23) 61 KB
- IIC 22 Llyfrgell Genedlaethol Cymru PDF 562 KB
- IIC 23 Cyngor Llyfrau Cymru PDF 443 KB Gweld fel HTML (25) 25 KB
- IIC 24 Action in Caerau and Ely (ACE) (Saesneg yn unig) PDF 404 KB Gweld fel HTML (26) 43 KB
- IIC 25 Ofcom PDF 465 KB Gweld fel HTML (27) 47 KB
- IIC 26 Llenyddiaeth Cymru PDF 235 KB Gweld fel HTML (28) 23 KB
- IIC 27 Musicians' Union (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- IIC 28 Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru PDF 1 MB
- IIC 29 TAC PDF 527 KB Gweld fel HTML (31) 26 KB
- IIC 30 Urdd (Welsh only) PDF 770 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IIC 31 Mentrau Iaith Cymru PDF 575 KB Gweld fel HTML (34) 14 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IIC 32 Colegau Cymru (Saesneg yn unig) PDF 792 KB
- IIC 33 Cymdeithasau Amgueddfeydd PDF 363 KB Gweld fel HTML (37) 64 KB
- IIC 34 Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) (Saesneg yn unig) PDF 547 KB Gweld fel HTML (38) 12 KB
- IIC 35 Cymdeithas Chwaraeon Cymru (Saesneg yn unig) PDF 734 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn pryderu am effaith costau
cynyddol ar y sectorau o fewn ei bortffolio. Bydd y Pwyllgor yn cynnal
ymchwiliad byr i edrych ar yr effeithiau hyn, a pha gymorth sydd ei angen, cyn
iddo wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae gan y
Pwyllgor ddiddordeb penodol mewn materion sy'n arbennig neu’n fwy amlwg yn eich
sector chi na chymdeithas yn gyffredinol.
Hoffai’r Pwyllgor
wybod:
>>>>
>>>Pa
effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector
hyd yn hyn?
>>>Pa
effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich
sefydliad a'ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn anghildroadwy
(e.e. lleoliadau'n cau, yn hytrach nag yn gyfyngiad dros dro yn unig ar
weithgareddau)?
>>>Pa
ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
>>>I ba
raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion
gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?
<<<
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig y Senedd wedi cwblhau ymchwiliad
yn ddiweddar i effaith economaidd a gwledig pwysau costau byw. Bwriedir i
ymchwiliad y Pwyllgor hwn ategu’r gwaith hwnnw yn ogystal â gwaith a wneir gan
bwyllgorau eraill y Senedd.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 15 Medi.2022.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565