Ymgynghoriad
Gofyn cwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 4 Awst 2022 a Dydd Gwener, 26 Awst 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Ar 15 Medi
2022, bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn cynnal sesiwn graffu cyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol.
Byddwn yn
trafod pob math o faterion iechyd a gofal cymdeithasol â’r Gweinidog, a hoffem
ni gael eich syniadau ar gyfer cwestiynau.
Parthed y
cwestiynau a gyflwynir
Bydd
cwestiynau a ofynnir yn ystod y sesiwn yn rhai sy’n cael eu dewis gan y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil y Senedd. Ni allwn sicrhau y
bydd pob cwestiwn a awgrymir yn cael ei ofyn.
Mae’n bosibl y
byddwn yn dadansoddi’r cwestiynau a gyflwynir i nodi themâu sy’n dod i’r amlwg,
er mwyn llywio’r sesiwn. Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau a awgrymir yn cael eu
gwneud yn ddienw at y diben hwn.
Os dewisir
eich cwestiwn
Mae’n bosibl y
bydd eich cwestiwn chi, neu gwestiwn cyffredinol ar y materion yr ydych chi ac
eraill wedi’u crybwyll, yn cael ei ofyn mewn sesiwn graffu gyffredinol y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2022.
Os na ddewisir
eich cwestiwn
Mae’n bosibl y
bydd cwestiynau a gyflwynir yn cael eu defnyddio i lywio busnes y Pwyllgor yn y
dyfodol.
Sut i rannu
eich awgrymiadau
Llenwch ffurflen
ar-lein cyn 16:00 ddydd Gwener 26 Awst 2022.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565