Ymgynghoriad
Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2022 a Dydd Gwener, 30 Medi 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CIWF 01 Canolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (Saesneg yn unig) PDF 217 KB Gweld fel HTML (1) 34 KB
- CIWF 02 IWA (Saesneg yn unig) PDF 720 KB
- CIWF 03 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 192 KB Gweld fel HTML (3) 3 KB
- CIWF 04 Media Cymru (Saesneg yn unig) PDF 201 KB
- CIWF 05 Music Venue Trust (Saesneg yn unig) PDF 381 KB
- CIWF 06 Prifysgol De Cymru (Saesneg yn unig) PDF 504 KB Gweld fel HTML (6) 36 KB
- CIWF 07 Aelodau Cyhoeddi Cymru (Saesneg yn unig) PDF 227 KB Gweld fel HTML (7) 6 KB
- CIWF 08 Cyngor Celfyddydau Cymru PDF 677 KB
- CIWF 09 Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru PDF 475 KB Gweld fel HTML (9) 41 KB
- CIWF 10 Cyngor Llyfrau Cymru PDF 424 KB Gweld fel HTML (10) 18 KB
- CIWF 11 Grŵp Clwstwr Creadigol (Saesneg yn unig) PDF 455 KB Gweld fel HTML (11) 14 KB
- CIWF 12 Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol PDF 468 KB Gweld fel HTML (12) 17 KB
- CIWF 13 Ecwiti Cymru (Saesneg yn unig) PDF 347 KB Gweld fel HTML (13) 66 KB
- CIWF 14 Undeb y Cerddorion (Saesneg yn unig) PDF 409 KB
- CIWF 15 TAC PDF 587 KB Gweld fel HTML (15) 41 KB
- CIWF 16 Ffilm Cymru (Saesneg yn unig) PDF 548 KB Gweld fel HTML (16) 77 KB
- CIWF 17 ITV Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 945 KB
- CIWF 18 BBC Wales PDF 648 KB Gweld fel HTML (18) 43 KB
- CIWF 19 S4C PDF 774 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn
cynnal ymchwiliad ar weithlu’r diwydiannau creadigol.
Roedd nifer o
ymatebwyr i ymgynghoriad
y Pwyllgor ar y blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd (haf 2021)
yn galw ar y Pwyllgor i edrych ar y maes hwn, gan gynnwys Uned yr Economi
Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau
Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Effeithiodd y
pandemig COVID-19 yn anghymesur ar weithwyr llawrydd, sef tua hanner gweithlu’r
sector diwylliannol yng Nghymru. Mewn adroddiad a
gyhoeddwyd gan gorff diwydiant Llawryddion Celfyddydol Cymru ym mis Ionawr
2022, nodwyd llawer o gasgliadau syfrdanol, gan gynnwys bod bron i chwarter y
gweithwyr llawrydd yn ansicr o hyd a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio.
Yn ystod y
blynyddoedd diwethaf mae'r diwydiannau creadigol wedi bod yn un o’r sectorau
mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Mae cynhyrchu ffilm a theledu wedi bod yn faes
twf arbennig o dda. Yn 2018, mynegwyd pryderon
y byddai prinder sgiliau posibl yn cyfyngu ar dwf yn y diwydiannau sgrin, a
chawsant eu hailadrodd
yn adroddiad Arolwg Sgrin Cymru yn 2021 gan Brifysgol De Cymru a Chymru
Greadigol (is-adran diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru). Ym mis Medi 2021,
cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru y bydd “corff sgiliau creadigol newydd yn cael ei gyflwyno'n
fewnol drwy Cymru Greadigol”.
Hoffai’r Pwyllgor
wybod:
·
Beth
yw iechyd presennol gweithlu'r sector, gan gynnwys effeithiau'r pandemig,
Brexit a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha
effaith y mae hyn wedi’i chael?
·
Pa
mor sefydlog yw’r sector yn ariannol a pha mor addas yw’r tâl a’r
amodau gweithio?
·
Pa
mor gydradd, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellir gwella hyn?
·
Pa
mor ddigonol yw’r cyfleoedd hyfforddi a sgiliau? A oes bylchau, a
sut dylid eu llenwi?
·
Beth
fu effaith cymorth gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, ac a oes angen
cymorth pellach?
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 30 Medi 2022.
Os ydych am
ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i
SeneddDiwylliant@senedd.cymru
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565