Ymgynghoriad
Deintyddiaeth
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022 a Dydd Gwener, 16 Medi 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- D 01 - Carol Richardson (Saesneg yn unig) PDF 80 KB
- D 02 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 133 KB
- D 03 - Professor Ivor Chestnutt (Saesneg yn unig) PDF 398 KB
- D 04 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 576 KB
- D 05 - Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 254 KB
- D 06 - Cymdeithas Orthodontig Prydain (Saesneg yn unig) PDF 433 KB
- D 07 - Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (Saesneg yn unig) PDF 255 KB
- D 08 - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned PDF 280 KB
- D 09 - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- D 10 - Eirlys Dental Practice (Saesneg yn unig) PDF 229 KB
- D 11 - Mencap Cymru (Saesneg yn unig) PDF 209 KB
- D 12 - CIC De Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 472 KB
- D 13 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru PDF 372 KB
- D 14 - Gypsies & Travellers Wales (Saesneg yn unig) PDF 234 KB
- D 15 - North Wales and Powys Orthodontic Managed Clinical Network (Saesneg yn unig) PDF 183 KB
- D 16 - Y Groes Goch Brydeinig (Saesneg yn unig) PDF 305 KB
- D 17 - South East Wales Orthodontic Managed Clinic Network (Saesneg yn unig) PDF 182 KB
- D 18 - Bro Taf Local Dental Committee (Saesneg yn unig) PDF 164 KB
- D 19 - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 327 KB
- D 20 - Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- D 21 - Age Cymru (Saesneg yn unig) PDF 261 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Yn dilyn
adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ym mis
Mai 2019, sef Dechrau
Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
y Chweched Senedd yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i bontio’r
bwlch o ran anghydraddoldebau iechyd y geg ac i ailadeiladu deintyddiaeth yng
Nghymru ar ôl y pandemig COVID-19 ac yng nghyd-destun costau byw cynyddol.
Mae'r Pwyllgor yn
ystyried yn benodol:
>>>>
>>> I ba raddau y mae mynediad at ddeintyddiaeth
y GIG yn parhau i fod yn gyfyngedig, a beth yw’r ffordd orau o ddal i fyny â'r
ôl-groniad o ran gofal deintyddol sylfaenol, gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau
orthodontig.
>>> Gwell gwybodaeth am iechyd y geg, gan
gynnwys nifer y bobl sy’n manteisio ar ofal deintyddol sylfaenol y GIG ledled
Cymru yn dilyn ailddechrau gwasanaethau, a bod angen ymgyrch a ariennir gan y
Llywodraeth i roi sicrwydd i’r cyhoedd bod practisau deintyddol yn amgylcheddau
diogel.
>>> Cymhellion i recriwtio a chadw deintyddion y
GIG, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd â lefelau o angen mawr.
>>> Anghydraddoldebau iechyd y geg, gan gynnwys
ailddechrau rhaglen y Cynllun Gwên a’r posibilrwydd o’i hehangu i blant 6-10
mlwydd oed; gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd y geg pobl 12-21 oed;
capasiti gwasanaethau deintyddol yn y cartref i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal
(rhaglen 'Gwên am
Byth'); a gofyn, i ba raddau y mae cleifion (yn enwedig cleifion risg isel) yn
dewis gweld ymarferwyr preifat, ac a oes risg o greu gwasanaeth iechyd
deintyddol dwy haen. Lles a morâl y gweithlu.
>>> Y posibilrwydd o ehangu'r Gwasanaeth
Deintyddol Cymunedol ymhellach.
>>> Gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeintyddiaeth
y GIG yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi mewn arferion awyru a diogelu ar gyfer
y dyfodol.
>>> Effaith yr argyfwng costau byw ar ddarparu
gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru a mynediad at y gwasanaethau.
<<<
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn
effeithio arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau,
gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 16 Medi 2022.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>> Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person
neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.
>>> A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno
gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>> Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel
unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.
>>> Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich
rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
>>> Cadarnhad o ran a fyddai'n well gennych i’ch
enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau
unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>> Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin
eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda
rhesymau dros y cais.
>>> Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn
eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod
wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u
bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Sut i roi eich
barn
I roi eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu
drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd,
CF99 1SN.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn
nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565