Ymgynghoriad
Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2022 a Dydd Llun, 22 Awst 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- DH2P_01 Trinity House (Saesneg yn unig) PDF 268 KB Gweld fel HTML (1) 9 KB
- DH2P_02 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 494 KB Gweld fel HTML (2) 15 KB
- DH2P_03 Action on Empty Homes (AEH) PDF 194 KB
- DH2P_04 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 278 KB Gweld fel HTML (4) 3 KB
- DH2P_05 Christopher Jofeh (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- DH2P_06 Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) (Saesneg yn unig) PDF 141 KB
- DH2P_06A Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) (Saesneg yn unig) PDF 557 KB Gweld fel HTML (7) 28 KB
- DH2P_07 Sefydliad Tai Siartredig Cymru (Saesneg yn unig) PDF 895 KB Gweld fel HTML (8) 65 KB
- DH2P_08 Calor (Saesneg yn unig) PDF 95 KB
- DH2P_09 Gofal a Thrwsio Cymru (Saesneg yn unig) PDF 279 KB
- DH2P_10 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 196 KB
- DH2P_11 Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru (Saesneg yn unig) PDF 406 KB Gweld fel HTML (12) 34 KB
- DH2P_12 Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig) PDF 96 KB
- DH2P_13 Cymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu (BSA) PDF 622 KB Gweld fel HTML (14) 30 KB
- DH2P_14 National Energy Action (NEA) Cymru PDF 694 KB Gweld fel HTML (15) 57 KB
- DH2P_15 Sero (Saesneg yn unig) PDF 198 KB
- DH2P_16Ynni Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 493 KB Gweld fel HTML (17) 28 KB
- DH2P_17 Ffederasiwn y Meistri Adeiladu Cymru PDF 173 KB
- DH2P_18 UK Finance (Saesneg yn unig) PDF 255 KB
- DH2P_19 Y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) (Saesneg yn unig) PDF 176 KB
- DH2P_20 Cwmpas PDF 503 KB Gweld fel HTML (21) 8 KB
- DH2P_21 Archwilio Cymru PDF 174 KB
- DH2P_22 Y Sefydliad Adeiladau Siartredig (Saesneg yn unig) PDF 746 KB Gweld fel HTML (23) 39 KB
- DH2P_23 Property Mark (Saesneg yn unig) PDF 532 KB Gweld fel HTML (24) 27 KB
- DH2P_24 Generation Rent (Saesneg yn unig) PDF 541 KB Gweld fel HTML (25) 30 KB
- DH2P_25 Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Saesneg yn unig) PDF 349 KB Gweld fel HTML (26) 64 KB
- DH2P_26 Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU (Saesneg yn unig) PDF 1 MB Gweld fel HTML (27) 80 KB
- DH2P_27 Panel Arbenigol ar Dai, Penaethiaid Cymru o Grŵp Iechyd yr Amgylchedd (Saesneg yn unig) PDF 462 KB Gweld fel HTML (28) 24 KB
- DH2P_28 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) (Saesneg yn unig) PDF 699 KB
- DH2P_29 Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 698 KB
- DH2P_30 The Property Institute (TPI) (Saesneg yn unig) PDF 709 KB Gweld fel HTML (31) 45 KB
- DH2P_31 Robert Chapman, Cynghorwr Eiddo Strategol ac Ymarferydd Adfywio (Saesneg yn unig) PDF 9 MB
- DH2P_32 Nesta PDF 1 MB
- DH2P_33 Banc Datblygu Cymru PDF 663 KB Gweld fel HTML (34) 41 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (‘y Pwyllgor’) yn cyflawni darn bach o waith sy’n canolbwyntio ar
ddatgarboneiddio'r sector tai preifat (hynny yw, y sector rhentu preifat a’r
sector perchen-feddianwyr).
Cylch gorchwyl
- bydd y Pwyllgor yn trafod:
>>>>
>>>y
dull presennol o ddatgarboneiddio tai yn y sector rhentu preifat a’r sector
perchen-feddianwyr yng Nghymru, gan gynnwys effeithiolrwydd rhaglenni presennol
a chymorth ar gyfer ôl-osod;
>>>rôl
targedau ôl-osod sy’n benodol i’r sector i helpu i ysgogi newid;
>>>y
camau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i fwrw ymlaen â rhaglen ôl-osod ar
gyfer y sectorau hyn yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor;
>>>y
prif heriau sy’n gysylltiedig â darparu rhaglen ôl-osod yn y sectorau hyn, gan
gynnwys heriau ariannol, ymarferol ac ymddygiadol, a’r camau y mae’n rhaid i
Lywodraeth Cymru (a’i phartneriaid) eu cymryd i’w goresgyn;
>>>sut y
gellir taro’r cydbwysedd cywir rhwng dylanwadu/cymell perchnogion tai a
landlordiaid yn y sector preifat i ôl-osod eu heiddo a rheoleiddio i godi
safonau i ysgogi cynnydd; ac
>>>effeithiolrwydd
y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio dylanwadu ar
benderfyniadau ar faterion a gedwir yn ôl i gefnogi’r gwaith o
ddatgarboneiddio’r sectorau hyn.
<<<
Gwahoddiad i
gyfrannu i'r ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor
eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o
ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch
gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno yw dydd Llun 22 Awst 2022.
Cyflwyno
tystiolaeth
Os ydych am
ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
neu anfonwch
drwy'r post at:
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Sut y byddwn
yn defnyddio eich gwybodaeth
Byddwn fel arfer
yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych
wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch
cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych
wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys
eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.
Cyn derbyn cyfraniadau
gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu
warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant
neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18
oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565