Ymgynghoriad
Lobïo
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 13 Mai 2022 a Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 1. Mark Isherwood AS (Saesneg yn unig) PDF 108 KB
- 2. Geraint Griffiths-Southcombe (Saesneg yn unig) PDF 28 KB
- 3. Institution of Civil Engineers Wales (Saesneg yn unig) PDF 159 KB
- 4. Grwp Plaid Cymru (Saesneg yn unig) PDF 109 KB
- 5. Comisiynydd Safonau'r Senedd PDF 213 KB
- 6. Transparency International PDF 421 KB
- 7. Electoral Reform Society Cymru PDF 106 KB
- 8. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 150 KB
- 9. ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 254 KB
- 10. Non Davies (Saesneg yn unig) PDF 65 KB
- 11. Deryn (Saesneg yn unig) PDF 75 KB
- 12. Public Affairs Cymru (Saesneg yn unig) PDF 188 KB
- 13. Camlas (Saesneg yn unig) PDF 41 KB
- 14. PRCA (Saesneg yn unig) PDF 156 KB
- 15. Propel Wales (Saesneg yn unig) PDF 108 KB
- 16. UNISON (Saesneg yn unig) PDF 90 KB
- 17. CIPR (Saesneg yn unig) PDF 201 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i lobïo ac mae’n awyddus i ddarganfod a
yw lobïo yn destun pryder i bobl Cymru. Cytunwyd i ystyried a yw trefniadau presennol
y Senedd o ran lobïo yn ddigon cadarn ac addas i'r diben ar gyfer y Chweched
Senedd.
Ar hyn o bryd nid
oes gan y Senedd gofrestr lobïo, ond yn hytrach mae ganddi ganllawiau mewn
perthynas â lobïo y cytunwyd arnynt drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn yn
2013. Mae’r canllawiau hyn yn ategu ac yn atodol i’r darpariaethau yn y Cod
Ymddygiad mewn perthynas â lobïo, ac maent yn nodi’n glir na ddylai Aelodau
ymgymryd â gwaith cyflogedig sy’n cynnwys lobïo ar ran rhywun. Mae'n nodi rhai
o'r ystyriaethau y dylai Aelodau eu cael mewn perthynas ag ymdrin â lobïwyr
posibl, fel llunio cofnodion a nodiadau ar gyfarfodydd o'r fath.
Mae gan y Senedd
hefyd reolau mewn perthynas â Grwpiau Trawsbleidiol, sef grwpiau o Aelodau a
phobl berthnasol y tu allan i’r Senedd sy’n cwrdd i drafod maes penodol.
Cyflwynwyd y rheolau hyn ar ôl i’r mater gael ei ystyried gyntaf yn 2013. Ceir
rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o’r Grwpiau Trawsbleidiol ar wefan y
Senedd.
Byddai'r Pwyllgor
yn croesawu eich barn am y pwyntiau a godir yn y ddogfen hon. Bydd angen anfon
eich ymatebion erbyn 23 Mehefin 2022 i SeneddSafonau@senedd.cymru.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565