Ymgynghoriad
Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 6 Ebrill 2022 a Dydd Gwener, 20 Mai 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- GRT 01 - Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 653 KB
- GRT 02 - Comisiynydd Plant Cymru PDF 520 KB Gweld fel HTML (3) 55 KB
- GRT 03 - Garden Court Chambers (Saesneg yn unig) PDF 608 KB Gweld fel HTML (4) 52 KB
- GRT 04 - Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 346 KB Gweld fel HTML (5) 69 KB
- GRT 05 - Tai Pawb (Saesneg yn unig) PDF 845 KB Gweld fel HTML (6) 43 KB
- GRT 06 - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri PDF 456 KB Gweld fel HTML (7) 19 KB
- GRT 07 - Cyngor Sir Ynys Môn PDF 360 KB Gweld fel HTML (8) 10 KB
- GRT 08 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful PDF 305 KB Gweld fel HTML (9) 9 KB
- GRT 09 - Cyngor Sir Gâr (Saesneg yn unig) PDF 676 KB Gweld fel HTML (10) 11 KB
- GRT 10 - Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 775 KB
- GRT 11 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 399 KB Gweld fel HTML (12) 33 KB
- GRT 12 - Rhiannon Craft (Saesneg yn unig) PDF 390 KB Gweld fel HTML (13) 138 KB
- GRT 13 - Bettina Hayles (Saesneg yn unig) PDF 524 KB Gweld fel HTML (14) 61 KB
- Gohebiaeth gan Teithio Ymlaen at y Cadeirydd - 27 Mehefin 2022 (Saesneg yn unig) PDF 5 MB
- Nodiadau grŵpiau ffocws gan Gypsies Travellers Wales a Teithio Ymlaen - 29 Mai 2022 (Saesneg yn unig) PDF 315 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cylch gorchwyl
Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y
Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn,
Roma a Theithwyr ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr heriau a allai
godi wrth i Fil yr Heddlu,
Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ddod i rym. Bydd y Pwyllgor yn archwilio
sut mae'r fframwaith statudol, a sefydlwyd i hyrwyddo gwaith cynllunio a
datblygu safleoedd ar gyfer y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gweithio.
Bydd yn ystyried materion a fydd yn cynnwys y canlynol:
>>>>
>>> A yw fframwaith presennol Llywodraeth Cymru
yn sicrhau digon o safleoedd preswyl a thramwy sy'n ddiwylliannol-briodol i
Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru.
>>> I ba raddau y mae awdurdodau cynllunio lleol
a Sipsiwn a Theithwyr yn llwyddo i gydweithio, fel yr argymhellir yng Nghanllawiau
Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o ganfod safleoedd cynaliadwy ar gyfer
cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
>>> I ba raddau y mae Asesiadau Llety Sipsiwn a
Theithwyr awdurdodau lleol yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u hadolygu i
sicrhau eu bod yn diwallu anghenion llety y gymuned teithwyr.
>>> Archwilio'r heriau posibl i awdurdodau lleol
a Llywodraeth Cymru o ran darparu safleoedd llety addas a digonol ar gyfer
cymunedau teithwyr.
>>> Archwilio beth fydd goblygiadau’r
darpariaethau ym Mil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU.
<<<
Gwahoddiad i
gyfrannu i'r ymchwiliad
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich
safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i
gwerthfawrogi.
Mae'r Pwyllgor yn
edrych yn benodol am safbwyntiau ynghylch:
>>>>
>>> A yw awdurdodau lleol Cymru a chymunedau
Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn llwyddo i gydweithio’n llwyddiannus i:
>*>*>*
*** nodi safleoedd preswyl a thramwy
cynaliadwy, a
*** thrafod anghenion llety y gymuned Sipsiwn,
Roma a Theithwyr?
<*<*<*
>>> Bwriad Asesiadau Llety y Gymuned Sipsiwn a
Theithwyr yw asesu anghenion llety y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn eich
barn chi, a yw awdurdodau lleol Cymru yn eu cyfanrwydd yn gweithredu, monitro
ac adolygu Asesiadau Llety y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn effeithiol?
>>> A yw’r fframwaith statudol a pholisi
presennol yn sicrhau bod digon o safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer cymunedau
Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n briodol yn ddiwylliannol ledled Cymru ac o fewn
awdurdodau lleol unigol?
>>> Beth yw’r prif heriau i awdurdodau lleol
Cymru a Llywodraeth Cymru wrth ddarparu safleoedd llety addas a digonol ar
gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
>>> A ydych yn rhagweld pan/os daw Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU i rym y bydd:
>*>*>*
*** heriau penodol i'w goresgyn, a/neu
*** mewn rhai lleoliadau yng Nghymru, yn
ymwneud â safleoedd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
<*<*<*
>>> A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am
ddarparu safleoedd llety yng Nghymru ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a
Theithwyr?
<<<
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener
20 Mai 2022.
Cyflwyno
tystiolaeth
Os ydych am
ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i
SeneddTai@senedd.cymru neu anfonwch drwy'r
post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaeth statudol.
Gweler y canllawiau
i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau a’r Hysbysiad
Preifatrwydd sy’n ymwneud â chyfrannu at waith bwyllgorau'r Senedd.
Sut y byddwn
yn defnyddio eich gwybodaeth
Byddwn fel arfer
yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych
wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch
cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych
wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys
eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.
Cyn derbyn
cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant
neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan
riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o
dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- Llythyr ymgynghori PDF 283 KB Gweld fel HTML (1) 41 KB
- Gohebiaeth gan Teithio Ymlaenat y Cadeirydd - 2 Mawrth 2022 (Saesneg yn unig) PDF 314 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565