Ymgynghoriad
Costau byw
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 6 Ebrill 2022 a Dydd Llun, 16 Mai 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CoL01 - The Chartered Institute of Building (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- CoL02 - Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig) PDF 760 KB Gweld fel HTML (2) 41 KB
- CoL03 - National Energy Action Cymru PDF 269 KB
- CoL04 - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Saesneg yn unig) PDF 258 KB Gweld fel HTML (4) 36 KB
- CoL05 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 197 KB Gweld fel HTML (5) 33 KB
- CoL06 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 417 KB
- CoL07 - Chwarae Teg (Saesneg yn unig) PDF 737 KB Gweld fel HTML (7) 50 KB
- CoL08 - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) PDF 423 KB Gweld fel HTML (8) 39 KB
- CoL09 - Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 339 KB
- CoL10 - Barnardo’s Cymru (Saesneg yn unig) PDF 245 KB
- CoL11 - GCT (Gweithredu Caerau Trelái (Saesneg yn unig) PDF 422 KB Gweld fel HTML (11) 33 KB
- CoL12 - Home-Start Cymru PDF 291 KB
- CoL13 - Cymorth i Ferched Cymru (Saesneg yn unig) PDF 744 KB Gweld fel HTML (13) 29 KB
- CoL14 - Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS) (Saesneg yn unig) PDF 535 KB
- CoL15 - Age Cymru (Saesneg yn unig) PDF 224 KB
- CoL16 - Chwaraeon Cymru (Saesneg yn unig) PDF 254 KB
- CoL17 - Diabetes UK (Saesneg yn unig) PDF 670 KB Gweld fel HTML (17) 27 KB
- CoL18 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 477 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Citizens Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 92 KB
- Erthygl gan Citizens Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 134 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor ar Bopeth Ynys Môn (Saesneg yn unig) PDF 312 KB
Diben yr ymgynghoriad
Casglodd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig farn ar effaith economaidd a gwledig
pwysau costau byw. Ceisiodd yr ymchwiliad hwn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei
wneud neu ei gynllunio gan bwyllgorau eraill y Senedd ar gostau byw, gan
gynnwys tlodi tanwydd, datgarboneiddio tai, dyled ac anghydraddoldebau iechyd
meddwl.
Fe wnaet prisiau
cynyddol ynni, y cynnydd mewn trethi a gostyngiad yn y cyflog gwirioneddol
achosi i Sefydliad Resolution nodi 2022 fel ‘blwyddyn
y wasgfa’. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn incwm gwario aelwydydd ers i’r
Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cadw cofnodion.
Cynyddodd y cap
ar brisiau ynni i aelwydydd o 54 y cant ar 1 Ebrill 2022, ac roedd disgwyl
gweld cynnydd pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno. Ardaloedd gwledig
sydd â’r prisiau ynni domestig uchaf yng Nghymru, a eglurir yn rhannol gan y
costau uwch sy’n wynebu aelwydydd nad ydynt ar y grid.
Dangosodd amcangyfrifon
gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol mai’r
aelwydydd tlotaf yng Nghymru oedd yn debygol o gael eu taro waethaf gan bwysau
costau byw, gan neu bod yn gwario llawer mwy o’u hincwm ar ynni a bwyd.
Croesawodd y Pwyllgor
farn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdriniwyd â nhw yn y cylch
gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:
>>>>
>>> Beth yw effeithiau economaidd tebygol y
wasgfa costau byw?
>>> Sut mae pwysau costau byw yn effeithio ar y
gweithlu, a sut yr effeithir ar wahanol grwpiau o fewn y gweithlu?
>>> Sut mae heriau costau byw yn effeithio ar
fusnesau a’r sectorau economaidd, a sut mae busnesau’n ymateb i’r rhain?
>>> Sut mae’r wasgfa costau byw yn effeithio ar
gymunedau gwledig ac i ba raddau y mae’r pwysau y maent yn eu hwynebu yn
wahanol i ardaloedd trefol?
>>> Pa mor effeithiol yw’r mesurau cymorth y mae
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’u rhoi ar waith, a pha gymorth
pellach a allai fod ei angen yn ystod y misoedd nesaf?
<<<
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Llun 16 Mai 2022.
Er eglurder, nid
oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565