Ymgynghoriad
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: menywod mudol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 31 Mawrth 2022 a Dydd Iau, 12 Mai 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- MW01 - South Riverside Community Development Centre, TCC (Trefnu Cymunedol Cymru/Together Creating Communities), CLPW (Communidade de Lingua Portuguesa Wrexham), Vesta SFS, Bawso, Henna Foundation, and Women Connect First (Saesneg yn unig) PDF 371 KB
- MW02 - NSPCC (Saesneg yn unig) PDF 137 KB
- MW03 - Race Council Cymru (Saesneg yn unig) PDF 330 KB
- MW04 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 595 KB
- MW05 - Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 252 KB
- MW06 - Dr A Innes, Violence and Society Centre at City, University of London and the UKRI Prevention Research Partnership VISION Consortium (Saesneg yn unig) PDF 217 KB
- MW07 - Welsh Women's Aid and BAWSO (Saesneg yn unig) PDF 391 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol wedi bod yn ystyried ymchwiliad i drais yn erbyn menywod,
cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Bydd yr
ymchwiliad yn edrych ar ba rwystrau y mae menywod mudol yn eu hwynebu wrth
geisio cael mynediad at wasanaethau a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i
sicrhau y gall menywod mudol gael mynediad at wasanaethau sydd ag adnoddau
llawn a hyfforddiant i ymdrin â normau ac arferion diwylliannol.
Ar gyfer y gwaith
hwn, bydd y Pwyllgor yn mabwysiadu diffiniad eang o 'fenywod mudol' wrth iddo
geisio gwella’i ddealltwriaeth o'r materion, a sut y maent yn gysylltiedig â'r
cylch gorchwyl isod. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys (ond nid yw o reidrwydd yn
gyfyngedig i) y rhai â statws mewnfudo parhaol neu dros dro, ffoaduriaid,
ceiswyr lloches a mudwyr heb eu dogfennu.
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad yw ystyried:
>>>>
>>> Profiadau
menywod mudol o drais ac i ba raddau y mae normau ac arferion diwylliannol yn
cyfrannu at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (e.e.
anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, cam-drin ar sail
anrhydedd).
>>> Cwmpas
gwasanaethau ac ymyriadau arbenigol sydd â digon o adnoddau a hyfforddiant i
gefnogi goroeswyr o gymunedau mudol, gan gynnwys diwallu anghenion diwylliannol
ac ieithyddol.
>>> Ystyried
y rhwystrau sy’n atal menywod a merched mudol yng Nghymru rhag cael mynediad at
wasanaethau, a rhwystrau ychwanegol a wynebir gan fenywod sydd â statws
mewnfudo ansicr, neu y mae eu statws mewnfudo yn dibynnu ar briod neu gyflogwr,
neu’r rhai nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.
>>> A
allai Llywodraeth Cymru gymryd camau i liniaru’r effaith anghymesur y mae
polisi mewnfudo’r DU yn ei chael ar oroeswyr yng Nghymru, a gwireddu ei dyhead
mai ‘Cenedl Noddfa’ yw Cymru.
>>> Effeithiolrwydd
ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ac a yw'r rhain yn llwyddo i dargedu cymunedau
mudol a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.
>>> Dull
Llywodraeth Cymru o atal cychwynnol, ac a wneir digon o ymdrech i atal trais
cyn iddo ddigwydd, drwy weithio gyda grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd
allweddol ar lawr gwlad, yn ogystal ag ysgolion i herio normau ac arferion
diwylliannol.
<<<<
Mae’r Pwyllgor
wrthi’n gwahodd safbwyntiau ar y Cylch Gorchwyl a bydd yn cynnal sesiynau
tystiolaeth llafar yn nhymor yr haf. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 10.00
ar 12 Mai 2022.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565