Ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar effaith argyfwng Covid-19 ar y sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, cyflenwi bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd a newid hinsawdd.
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2020 a Dydd Iau, 18 Mawrth 2021
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod
i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth 9 Mehefin 2020 a dydd Iau
18 Mawrth 2021.
Cynhaliodd y Pwyllgor
ymgynghoriad ar effaith argyfwng Covid-19 ar y sectorau amaethyddiaeth a
physgodfeydd, cyflenwi bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd a newid hinsawdd.
Roedd y Pwyllgor
yn awyddus i glywed am effaith yr argyfwng a sut yr oedd yn cael ei
reoli. Fel rhan o’r gwaith hwn, bu’r Pwyllgor yn
ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol ac yn
ystyried yr effaith ar sectorau a phroffesiynau perthnasol. Bu hefyd
yn ystyried ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried:
- graddfa ac effeithiau’r pandemig ar eich
gwaith a/neu sector
- sut mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru
hyd yma wedi helpu i leihau effaith y pandemig
- pa gamau ychwanegol y dylai
Llywodraeth Cymru eu cymryd
- unrhyw feysydd eraill o fewn ein cylch gwaith
yr hoffech dynnu ein sylw atynt
Mae’r
ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.
Sut rydym yn
defnyddio'ch gwybodaeth: Fel mater o drefn, rydym yn cyhoeddi'r holl safbwyntiau rydym yn eu
cael. Bydd tystiolaeth a gyflwynir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn cael
ei chyhoeddi’n barhaus. Am fwy o wybodaeth, gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth: Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Iaith: Rydym yn gweithio mewn dwy iaith
swyddogol, Cymraeg a Saesneg. Gallwch gyflwyno’ch sylwadau yn y naill iaith
neu'r llall (neu'r ddwy iaith os yw safonau neu gynlluniau eich sefydliad yn
gofyn i chi wneud hynny), yn unol â'n Cynllun
Ieithoedd Swyddogol. Byddwn yn cyhoeddi sylwadau yn yr iaith y cawsant eu
cyflwyno ynddi, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.
Os oes gennych
unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â
ni: SeneddNHAMG@Senedd.cymru
Dogfennau ategol
- CP 01 Just One Ocean (Saesneg yn unig) PDF 412 KB
- CP 02 Open Food Network (Saesneg yn unig) PDF 183 KB
- CP 03 Y Gymdeithas Cadwraeth Forol (Saesneg yn unig) PDF 409 KB
- CP 04 Glebelands (Saesneg yn unig) PDF 77 KB
- CP 05 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 328 KB
- CP 05a Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 544 KB Gweld fel HTML (6) 22 KB
- CP 06 Coed Cadw (Saesneg yn unig) PDF 231 KB
- CP 07 Afonydd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 106 KB
- CP 08 Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 170 KB
- CP 09 Partneriaeth Asthma UK a’r British Lung Foundation (Saesneg yn unig) PDF 140 KB
- CP 10 Cymdeithas Milfeddygon Prydain (Saesneg yn unig) PDF 211 KB
- CP 11 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 107 KB
- CP 12 Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- CP 13 Y Gynghrair Cefn Gwlad (Saesneg yn unig) PDF 179 KB
- CP 14 Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 151 KB
- CP 15 Ludivine Petetin (Seasneg yn unig) PDF 212 KB
- CP 16 Liquid Gas UK (Saesneg yn unig) PDF 136 KB
- CP 17 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 195 KB
- CP 18 Cymdeithas Pysgotwyr Cymru Cyf (Saesneg yn unig) PDF 221 KB
- CP 19 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 142 KB
- CP 20 Cartref Cŵn a Chathod Battersea (Saesneg yn unig) PDF 279 KB
- CP 21 Vattenfall - Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen Y Cymoedd PDF 241 KB
- CP 22 Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru (Saesneg yn unig) PDF 281 KB
- CP 23 Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru (Saesneg yn unig) PDF 197 KB
- CP 24 Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 84 KB
- CP 25 Yr Ymddiriedolaeth Cŵn (Saesneg yn unig) PDF 165 KB
- CP 26 RSPCA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 175 KB
- CP 27 Unigolyn - Powys (Saesneg yn unig) PDF 63 KB
- CP&EU 01 Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 248 KB
- CP&EU 02 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 339 KB
- CP&EU 03 Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 235 KB
- CP&EU 04 Undeb Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 322 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565