Ymgynghoriad

Systemau a ffiniau etholiadol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Medi 2019 i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol. 

Gan adeiladu ar waith y Panel Arbenigol, ymchwiliodd y Pwyllgor i oblygiadau posibl newid y system ar gyfer ethol Aelodau a diwygio'r etholaethau a'r rhanbarthau y mae'r Aelodau'n eu cynrychioli.

Gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth i lywio ei ymchwiliad ac roedd ei gylch gorchwyl fel a ganlyn:

*        Archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad parthed systemau a ffiniau etholiadol, a'r egwyddorion sy'n sail iddynt, a hynny drwy:

*        Archwilio goblygiadau'r systemau etholiadol a'r ffiniau a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol ar gyfer cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru, ac ystyried sut y gellid pwysoli’r egwyddorion a nodwyd gan y Panel Arbenigol i sicrhau bod trefniadau etholiadol y Cynulliad yn briodol i gyd-destun Cymru;

*        Archwilio barn a dealltwriaeth y cyhoedd ynghylch trefniadau a ffiniau etholiadol presennol y Cynulliad a'r opsiynau a argymhellir gan y Panel Arbenigol;

*        Ystyried y goblygiadau i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn sgil newid y system etholiadol a model y ffiniau;

*        Archwilio egwyddorion ac ymarferoldeb sefydlu trefniadau adolygu ffiniau ar gyfer ardaloedd etholiadol y Cynulliad;

*        Ystyried goblygiadau diwygio system etholiadol a ffiniau'r Cynulliad o ran cost ac adnoddau.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 8 Ionawr 2020 a 19 Chwefror 2020.

 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sicrhau eu bod wedi ystyried polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Committee on Assembly Electoral Reform
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDiwygio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565