Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cyflwynwyd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ym mis Gorffennaf 2012, a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 29 Ebrill 2013. Nod y ddeddfwriaeth oedd cryfhau a gwella atebolrwydd a threfniadau llywodraethu yn ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gan amddiffyn annibyniaeth a gwrthrychedd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Yn dilyn ei ymchwiliad i drafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, cytunodd y Pwyllgor Cyllid i gynnal ymgynghoriad ar Fil Drafft, gyda'r bwriad o'i gyflwyno yn ystod y Cynulliad hwn. Mae'r Bil Drafft yn ceisio diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 er mwyn mynd i’r afael â materion a nodwyd yn ystod gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor ar y Ddeddf.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565