Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

Diben yr ymgynghoriad

Ers mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am rai o’r trethi sy’n cael eu talu yng Nghymru, gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019.

Yn sgil y pwerau trethu newydd hyn, mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i effaith bosibl cyfraddau trethi incwm gwahanol ar draws ffin Cymru a Lloegr.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:

  • Archwilio effeithiau amrywiadau treth incwm is-genedlaethol mewn systemau treth rhyngwladol ar ymddygiad enillwyr incwm isel, canolig ac uchel, yn enwedig ymfudo ac osgoi treth.
  • Deall sut y gall enillwyr incwm isel, canolig ac uchel ymateb i amrywiadau mewn cyfradd treth incwm ar gyfer pob band treth rhwng Cymru a Lloegr.
  • Deall lefel yr amrywiad mewn cyfraddau treth incwm a allai ysgogi newid ymddygiadol ymysg enillwyr isel, canolig ac uwch yng Nghymru a Lloegr.
  • Asesu effaith ariannol ar refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru gyda lefelau amrywiol o amrywiad cyfradd treth.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Bethan Davies

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu