Ymgynghoriad

Y newid yng nghyfansoddiad Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yn cynnal ymchwiliad sydd â’r cylch gorchwyl a ganlyn:

 

  • Ystyried cwmpas confensiwn Sewel, a’r ffordd y caiff ei gymhwyso, yng nghyd-destun y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
    • mewn perthynas â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth,
    • a yw’r canllawiau presennol ar ddatganoli sy’n ymwneud â chydsyniad yn addas i’r diben,
    • dyfarniadau diweddar y Goruchaf Lys,
    • sut y dylid dehongli “fel arfer” (“normally”) yn adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, pwy ddylai ei dehongli a sut y dylid datrys anghydfodau,
    • a ddylid sefydlu gweithdrefnau seneddol i gydnabod y confensiwn yn y broses ddeddfwriaethol,
    • profiad deddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU a’r ffordd y mae gwledydd eraill yn ymdrin â chydsyniad deddfwriaethol;
  • Ystyried y goblygiadau i setliad datganoli Cymru yn sgil lefelau newydd o lywodraethiant yn y DU o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys:
    • datblygu fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol,
    • datblygu a defnyddio cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â Brexit,
    • pŵer Gweinidogion y DU o dan adran 109A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i cyflwynwyd gan adran 12 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018) i ‘rewi’ meysydd o gymhwysedd datganoledig dros dro;
  • Adolygu, yn ôl y gofyn, argymhellion adroddiadau’r Pwyllgor sy’n gysylltiedig â Brexit; ac
  • Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â threfniadau cyfansoddiadol y DU ar ôl Brexit, gan gynnwys diwygio cyfansoddiadol.

 

Bwriad natur eang yr ymchwiliad yw caniatáu i’r Pwyllgor fod yn hyblyg o ran ei ffordd o weithio ac ystyried materion cyfansoddiadol sy’n dod i’r amlwg wrth i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, mae’n debygol o gyhoeddi adroddiadau thematig wrth i’w waith fynd rhagddo.

 

Yn ystod yr ymchwiliad, mae’r Pwyllgor hefyd yn debygol o adolygu rhai o’i adroddiadau sy’n gysylltiedig â Brexit fel:

 

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau am yr ymchwiliad.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDCC@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565