Ymgynghoriad

Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Bydd ymchwiliad manwl y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol (ac eraill), i atal pobl â phroblemau iechyd meddwl rhag cael eu rhoi yn nalfa’r heddlu, er mwyn sicrhau y cânt driniaeth briodol tra byddant yn y ddalfa, ac i helpu i sicrhau y caiff y lefel gywir o gefnogaeth ei darparu wrth iddynt adael y ddalfa. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried:

  • P’un a oes digon o wasanaethau (h.y. gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol) ar gael i gefnogi swyddogion yr heddlu yng Nghymru i ddargyfeirio pobl â phroblemau iechyd meddwl i ffwrdd o ddalfa’r heddlu.
  • Nifer y bobl a arestiwyd o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a’r graddau y mae dalfa’r heddlu yn cael ei defnyddio fel man diogel i bobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.
  • P’un a yw awdurdodau lleol a’r gwasanaethau iechyd yn cyflawni eu dyletswyddau ac yn cydymffurfio’n llawn â gofynion deddfwriaethol i ddarparu mannau diogel priodol y gall yr heddlu fynd â phobl sy’n cael eu cadw o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 iddynt.
  • Y graddau y cedwir at y Cod Ymarfer i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n cael eu cadw o dan y Ddeddf honno gael eu cludo i’r ysbyty yn y modd sy’n fwyaf tebygol o ddiogelu eu hurddas a’u preifatrwydd, gan ystyried unrhyw risgiau (h.y. gydag ambiwlans, a ddylai fod ar gael mewn modd amserol, yn hytrach na chyda thrafnidiaeth yr heddlu).
  • Pa mor effeithiol y mae heddluoedd yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid (fel y gwasanaethau iechyd neu’r gwasanaethau gofal cymdeithasol) i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed yn nalfa’r heddlu, a pha mor dda y mae’r heddlu eu hunain yn nodi ac yn ymateb i bobl fregus a gedwir yn y ddalfa, yn enwedig y rhai a gaiff eu harestio o dan adran 136 o’r Deddf Iechyd Meddwl 1983.
  • Effeithiolrwydd cynllunio gofal amlasiantaeth ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl wrth iddynt adael y ddalfa, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 i helpu i’w hatal rhag cael eu cadw yno dro ar ôl tro.
  • P’un a oes trefniadau gweithio ar y cyd effeithiol, sydd â ffocws penodol ar weithredu’r Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl ar waith, gan gynnwys, a yw Llywodraeth Cymru yn darparu goruchwyliaeth ac arweiniad digonol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion oedd 15 Mawrth 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565