Ymgynghoriad

Rhandiroedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 24 Ionawr 2019 a Dydd Gwener, 1 Mawrth 2019.

Byddai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn croesawu eich barn ar rhandiroedd.


Cylch gorchwyl
:

Yn 2010, cyhoeddodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd ei adroddiad ar ddarparu rhandiroedd yng Nghymru. Naw mlynedd yn ddiweddarach, hoffem ailedrych ar y gwaith hwn i weld faint o gynnydd a wnaed ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau digonol i wynebu heriau’r dyfodol. 

Fel rhan o’n hymchwiliad, Ailfeddwl am Fwyd, hoffem gael eich barn am y canlynol:

  • Dull strategol Llywodraeth Cymru o weithredu;
  • Sut y mae awdurdodau lleol Cymru yn ymdrin â’r mater; a
  • Sut y gallwn sicrhau’r manteision mwyaf bosibl o ran iechyd, y gymuned a’r amgylchedd drwy greu rhandiroedd a hybu twf cymunedol.

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565