Ymgynghoriad

Bioamrywiaeth - Cynllun Nwyddau Cyhoeddus

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Gofynnodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am sylwadau ar y cylch gorchwyl canlynol:

·         Sut gellid cymhwyso cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, a nodir yn Brexit a’n Tir, ym maes bioamrywiaeth;

·         Sut gellid cymhwyso amryw bolisïau a deddfau cyfredol Llywodraeth Cymru ym maes adfer bioamrywiaeth i’r gwaith o lunio a gweithredu’r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig; a

·         Pha wersi y gellir eu dysgu o’r Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir i sicrhau bod cynlluniau i helpu i adfer bioamrywiaeth yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n effeithiol? Sut dylid llunio a gweithredu’r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig newydd yn effeithiol at y diben hwn?

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohono at: SeneddNHAMG@cynulliad.cymru

Gofynnwn am yr holl gyfraniadau cyn 18 Ionawr 2019.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565