Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • A yw trefniadau llywodraethu, strwythur a chyllid Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn effeithiol ac yn dryloyw.
  • Pa gamau y dylid eu cymryd i ddatblygu'r agweddau hyn ar y sefydliad? A pha fodelau llywodraethu eraill ac arferion da sydd ar gael??
  • Rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol wrth weithredu polisi trafnidiaeth. Pa gyfrifoldebau ychwanegol y dylai'r corff eu hysgwyddo a sut ddylai'r rhain integreiddio â rôl Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn ddydd Gwener 11 Ionawr 2019.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni. Er eglurder, nid oes ffurflen ddynodedig ar gyfer cyflwyniadau. I'r rhai a hoffai gyflwyno eu hymateb yn electronig, anfonwch eich cyflwyniad yng nghorff e-bost neu fel atodiad i: mailto:SeneddEIS@assembly.wales

I'r rhai a hoffai gyflwyno eu barn ar ffurf copi caled, gellir cyfeirio llythyrau fel a ganlyn:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddESS@cynulliad.cymru

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu