Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Hawliau Pleidleisio i Garcharorion

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl

Ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, y cylch gorchwyl yw ystyried

  • Dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi'r hawl i rai carcharorion, neu bob un, bleidleisio yn etholiadau Cymru, ac a ellid gwahaniaethu rhwng categorïau gwahanol o garcharor ar sail hyd y ddedfryd, dyddiad rhyddhau disgwyliedig, neu fathau o drosedd;
  • Materion ymarferol, megis cofrestru etholiadol (gan gynnwys cyfeiriad), dull pleidleisio, ymgysylltiad carcharorion â'r broses wleidyddol, rhoi gwybodaeth ac addysg o ran gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth;
  • Materion trawsffiniol oherwydd bod carcharorion o Gymru yn cael eu carcharu yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb.
  • A yw ystyriaethau arbennig yn cynnwys troseddwyr ifanc yn y ddalfa os estynnir yr hawl i bleidleisio i bobl 16 ac 17 oed yn gyffredinol; ac
  • ymagweddau gwledydd eraill o ran hawl carcharorion i bleidleisio.  

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Bwrdd trafod ar-lein

Fel arall, os byddai’n well gennych ymateb drwy ein bwrdd trafod ar-lein, sy’n gofyn cwestiynau manylach am hawliau pleidleisio i garcharorion, defnyddiwch y linc isod:

https://senedd.dialogue-app.com/do-you-think-prisoners-should-be-allowed-to-vote-in-welsh-elections

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor..

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu