Ymgynghoriad

Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • Deall y seilwaith gwefru presennol yng Nghymru, ac i ba raddau y mae'n addas at y diben;
  • Sut y mae angen datblygu'r seilwaith i gefnogi cynnydd mewn cerbydau trydan ar ein ffyrdd. Sut y gall Llywodraeth Cymru, y sector preifat a'r trydydd sector gydweithio i ddatblygu’r seilwaith gwefru cerbydau trydan;
  • A yw'r grid trydan yng Nghymru yn gallu ymdopi â chynnydd sylweddol yn y seilwaith cerbydau trydan, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig;
  • I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad cerbydau carbon isel;
  • Archwilio’r posibilrwydd i gerbydau trydan hyrwyddo newid ymddygiad, er enghraifft, o ran perchnogaeth cerbydau a mentrau rhannu ceir;
  • I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad cerbydau carbon isel; ac
  • Enghreifftiau o arfer da o Gymru a thu hwnt.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn ddydd Llun, 5 Tachwedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni. Er eglurder, nid oes ffurflen ddynodedig ar gyfer cyflwyniadau. I'r rhai a hoffai gyflwyno eu hymateb yn electronig, anfonwch eich cyflwyniad yng nghorff e-bost neu fel atodiad i: SeneddESS@cynulliad.cymru

I'r rhai a hoffai gyflwyno eu barn ar ffurf copi caled, gellir cyfeirio llythyrau fel a ganlyn:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso ichi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565