Ymgynghoriad

Ymchwiliad Microblastigau

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i llygredd microblastigau.  Dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl mewn ymateb i'r cwestiynau canlynol.  Mae croeso i chi gyfeirio at unrhyw faterion eraill yn eich ymateb:

  • I ba raddau y mae microblastigau, gan gynnwys microffibrau synthetig, yn broblem o fewn amgylchedd dyfrol Cymru?  Sut mae hyn yn effeithio ar iechyd amgylcheddol ac iechyd dynol
  • Beth yw prif ffynonellau llygredd microblastigau, gan gynnwys microffibrau?
  • Pa mor gynhwysfawr yw ein gwybodaeth am raddfa llygredd microblastigau a'i effeithiau?  Beth ddylai'r blaenoriaethau ymchwil fod?
  • Beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal microblastigau rhag cael eu rhyddhau i'r amgylchedd?  Pa gamau eraill y gellid eu cymryd, a chan bwy, i fynd i'r afael â'r mater hwn yng Nghymru?

 

Anfonwch eich sylwadau atom drwy gyfrwng e-bost at SeneddNHAMG@cynulliad.cymru. Gofynnwn am yr holl gyfraniadau cyn 21 Medi 2018.  Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion ac yn penderfynu sut i symud ymlaen â'r ymchwiliad.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn bod dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno yn ddwyieithog.  Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siwr eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565