Ymgynghoriad

Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru. Dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl mewn ymateb i'r cwestiynau canlynol. Mae croeso i chi fynd i'r afael ag unrhyw faterion eraill yn eich ymateb:

  • I ba raddau y mae polisïau pysgodfeydd a mesurau rheoli ehangach Cymru yn sicrhau'r canlyniadau dymunol?
  • Pa ganlyniadau a pholisïau y mae Cymru am eu gweld yn sgil Bil Pysgodfeydd y DU? Sut y gall polisïau adlewyrchu orau anghenion sectorau gwahanol, gan gynnwys y diwydiant pysgota, dyframaethu a chymunedau arfordirol?
  • Beth yw'r prif heriau a chyfleoedd ar gyfer pysgodfeydd yn ystod y cyfnod pontio ac ar ôl Brexit?
  • Pa mor effeithiol yw gwaith ymgysylltu Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU ar bysgodfeydd? A yw buddiannau Cymru yn cael ystyriaeth ddigonol yn nhrafodaethau Brexit?

Anfonwch eich sylwadau atom drwy gyfrwng e-bost at seneddNHAMG@cynulliad.cymru. Gofynnwn am yr holl gyfraniadau cyn 18 Mehefin 2018. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion ac yn penderfynu sut i symud ymlaen â'r ymchwiliad.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565