Ymgynghoriad

Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau

Diben yr ymgynghoriad

Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, trafododd y Bwrdd Taliadau y dystiolaeth a oedd wedi dod i law hyd yma yn ystod ei adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion a allai fod angen ystyriaeth bellach a pha faterion y gellid mynd i'r afael â hwy yn gynt. O ganlyniad, mae wedi penderfynu ymgynghori ar rai materion ar unwaith, ac maent wedi'u hamlinellu isod:

  • cyllidebu'r Lwfans Staffio ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol;
  • cyhoeddi'r gwariant y mae pob Aelod unigol yn ei wneud ar ei Lwfans Staffio;
  • dileu'r terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff cymorth a gyflogir yn barhaol;
  • cynyddu'r hyblygrwydd o ran trosglwyddo rhwng cyllidebau.

Cylch gorchwyl

Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd sy’n ymwneud â’r lwfansau staffio a ddarperir i’r Aelodau, er mwyn sicrhau bod y cymorth ariannol sydd ar gael yn cefnogi diben strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith ei Aelodau, yn ogystal â sicrhau bod y system o gymorth ariannol i’r Aelodau yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn cynrychioli gwerth i’r trethdalwr.

Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  • pa mor ddigonol yw lefel y cymorth a roddir i Aelodau;
  • pa mor hyblyg a rhagnodol yw’r system bresennol o roi cefnogaeth ariannol i’r Aelodau;
  • pha mor addas yw telerau ac amodau gwaith presennol staff cymorth.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, a byddwn yn nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio eich gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd.  Mae'r wybodaeth hon wedi'i nodi yn yr atodiad i'r llythyr ymgynghori.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth oedd dydd Gwener 11 Mai 2018. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565