Ymgynghoriad

Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y’ Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE pan fydd y DU yn gadael yr UE, a sut y gellid gweinyddu’r hyn a ddaw yn lle cyllid yr UE yng Nghymru.

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

  • Asesu’r gwaith cynllunio ariannol ar gyfer disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, a'r hyn sy’n cael ei wneud i baratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd posibl o ran lefelau cyllid a chyfrifoldeb gweinyddol.
  • Archwilio pa ddulliau o weinyddu'r hyn a fydd yn disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd a allai ddarparu'r gorau i Gymru, ac i ba raddau y gallai'r rhain ail-greu neu fod yn wahanol i'r trefniadau presennol.

 

Datgelu gwybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gwybodaeth bersonol yma.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565