Ymgynghoriad

Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ar 22 Chwefror 2018, lansiwyd ymgynghoriad ar Fil Awtistiaeth (Cymru) drafft gan Paul Davies AC, gan wahodd pobl i roi sylwadau ar sut y mae’r gyfraith arfaethedig wedi cael ei drafftio. Bwriedir dod â’r ymgynghoriad i ben ar 17 Ebrill 2018.

Fel y'i drafftiwyd, byddai angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth ynghyd â chanllawiau ar sut y dylid ei defnyddio. Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes Gynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, ond byddai'r Bil yn sicrhau y byddai strategaeth awtistiaeth ar gael drwy’r amser (ac y byddai’r strategaeth yn cynnwys egwyddorion penodol), hyd yn oed os oedd y Llywodraeth yn newid.

Cafodd y gwaith o ddatblygu’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ei seilio ar ymatebion i ymgynghoriad blaenorol ar y cysyniad cyffredinol o Fil Awtistiaeth.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565