Ymgynghoriad

Creu Senedd i Gymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Consultation results

Diben yr ymgynghoriad

Roedd Comisiwn y Cynulliad yn awyddus i glywed barn ar sut y gellid newid trefniadau etholiadol, gweithredol a mewnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae’n rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros feysydd polisi newydd, gan gynnwys maint y Cynulliad, ei system etholiadol a'i drefniadau mewnol.

Cyhoeddodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2017: Senedd sy'n Gweithio i Gymru. Bu'r Panel yn ystyried capasiti'r Cynulliad i gyflawni ar gyfer pobl Cymru, a daeth i'r casgliad fod y Cynulliad, gyda dim ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Bu'r Panel yn ystyried hefyd sut y dylid ethol yr Aelodau, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Roedd Comisiwn y Cynulliad yn gofyn am farn ar argymhellion y Panel Arbenigol, ac ar ddiwygiadau eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad a allai wneud y sefydliad yn ddeddfwrfa fwy hygyrch ac effeithiol.

Cwestiynau cyffredin

Cewch ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad hwn a gwaith diwygio Comisiwn y Cynulliad ar ein cwestiynau cyffredin.

Digwyddiadau

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd ymgynghori i roi cyfle i’r cyhoedd holi Elin Jones AC, y Llywydd.

  • 12/03/2018, Prifysgol Abertawe
  • 15/03/2018, Prifysgol Aberystwyth
  • 22/03/2018, Prifysgol Bangor
  • 23/03/18, Ramada Plaza, Wrecsam

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Roedd gwahanol ffyrdd o roi sylwadau i Gomisiwn y Cynulliad am y diwygiadau posibl:

Canlyniadau’r ymgynghoriad

Cyhoeddwyd adroddiad llawn yr ymgynghoriad, yn ogystal ag adroddiad cryno a fersiwn hawdd ei darllen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar brif dudalen diwygio'r Cynulliad.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost am waith diwygio Comisiwn y Cynulliad.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae Comisiwn y Cynulliad yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig. Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i Gomisiwn y Cynulliad.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565