Ymgynghoriad

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cafodd y Bil Teithio Llesol ei graffu gan Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Tachwedd 2013. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i fapio'r seilwaith teithio llesol cyfredol ac yn y dyfodol a sicrhau gwelliant parhaus.  Mae hefyd yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wrth arfer rhai swyddogaethau awdurdod priffyrdd (yn arbennig creu, cynnal a chadw a gwella priffyrdd).

 

Daeth y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym ym mis Medi 2014. Mae'r term 'teithio llesol' yn golygu cerdded a beicio ac mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar gerdded a beicio ar gyfer cludiant yn hytrach na hamdden. Mae Adran 2(7) y Ddeddf yn diffinio "taith teithio llesol” fel "taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill".

 

Consultation-Image-Text-CY

 

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i adeiladu ar y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol cychwynnol a wnaed gan y Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol (Teithio Llesol: dechrau’r daith Chwefror 2016).

 

Mae'r Pwyllgor yn rhoi sylw i'r materion a ganlyn:

  • Asesu'r modd y caiff Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ei rhoi ar waith a sut y mae wedi gweithredu hyd yn hyn, gan gynnwys:
    • I ba raddau y mae amcanion datganedig y Ddeddf Teithio Llesol yn cael eu cyflawni;
    • Effeithiolrwydd is-ddeddfwriaeth a chanllawiau a wnaed o dan y Ddeddf;
    • Unrhyw gamau y dylid eu cymryd i wella effeithiolrwydd y Ddeddf a'r dull o'i gweithredu; ac
    • I ba raddau y mae'r Ddeddf wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.      
  • Asesu effeithiolrwydd polisi teithio llesol ehangach wrth gefnogi'r gwaith o gyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan gynnwys:
    • Effeithiolrwydd y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol;
    • A oes digon o gyllid a chapasiti ar gael i gefnogi gweithredu'r Ddeddf ei hun a pholisi teithio llesol ehangach;
    • Gweithrediad y Bwrdd Teithio Llesol; ac
    • A yw teithio llesol wedi'i integreiddio'n effeithiol ym mholisi ehangach Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Chwefror 2018. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddESS@cynulliad.cymru

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Arolwg

Hoffai'r Pwyllgor glywed eich barn ar deithio'n egnïol ac mae'n cynnal arolwg y gellir ei gael yma:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/TeithioLlesolC

 

Grwpiau ffocws

Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynnal nifer fach o grwpiau ffocws ledled Cymru i ddeall y rhwystrau canfyddedig i deithio'n egnïol.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565