Ymgynghoriad

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ymgymryd ag ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Ceir rhagor o fanylion am y Bil a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar dudalen y Bil.

 

Cylch gorchwyl

I'w ystyried:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a'r graddau y bydd yn cyfrannu at wella a diogelu iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, trwy ddarparu isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru a'i gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi am bris is na'r pris hwnnw.
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).

 

Gweithgaredd ymgysylltu

Fel rhan o waith craffu’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y Bil, cynhaliodd tîm allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol gyfres o grwpiau ffocws ledled Cymru. Mae crynodeb o’r dystiolaeth a ddaeth i law ar gael.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Roedd y Pwyllgor wedi croesawu tystiolaeth ar y cylch gorchwyl a'r graddau y bydd y Bil yn cyfrannu at wella a diogelu iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.

 

Wnaeth yr ymgynghoriad cau ar 15 Rhagfyr 2017.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siwr eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Datganiad i’r wasg

Datganiad i’r wasg - A oes angen isafbris am alcohol yng Nghymru? – 26.10.2017

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565