Ymgynghoriad

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol is-bwyllgor i gynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Ar 29 Medi 2017, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (“ONS”) y dylid cynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymru yng nghategori’r Corfforaethau Preifat Anariannol yn y cyfrifon cenedlaethol. 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan mai diben y Bil oedd ei gwneud yn bosibl ailddosbarthu Landlordiaid Preifat Cymdeithasol fel “Corfforaethau Preifat Anariannol” wrth baratoi cyfrifon y Llywodraeth.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Roedd yr is-bwyllgor yn croesawu barn ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Wrth ddrafftio'r cyflwyniadau, ystyriwyd y cwestiynau canlynol:

  • A yw’r Bil yn gwneud unrhyw beth sydd naill ai’n syrthio’n brin o’r newidiadau a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu sy’n mynd ymhellach na’r newidiadau sy’n ofynnol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol?
  • Os felly, sut y gellir gwella’r Bil i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r newidiadau a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol?

Gofynnwyd i bobl a oedd yn ymateb i nodi na fyddai cylch gwaith yr is-bwyllgor yn caniatáu iddo wneud dim mwy nag ystyried yr agwedd gyfyngedig hon ar bolisi tai. Ni fyddai’r is-bwyllgor yn gallu ystyried sylwadau sy’n ymdrin â materion y tu hwnt i egwyddorion cyffredinol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau oedd dydd Llun 13 Tachwedd 2017.

Datgelu gwybodaeth

Gofynnwyd i bobl a oedd yn ymateb i sicrhau eu bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r is-bwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565