Ymgynghoriad

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ystyrir mai anweithgarwch corfforol yw’r pedwerydd prif ffactor risg dros farwolaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif yn flaenorol mai cost anweithgarwch corfforol i Gymru yw £650 miliwn y flwyddyn. Rydym yn gwybod bod plant actif yn fwy tebygol o ddod yn oedolion actif ac rydym hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw gweithgarwch corfforol wrth fynd i’r afael â gordewdra.

 

Cylch gorchwyl:

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ar y canlynol:

  • Beth ydym yn ei wybod am lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant yng Nghymru? Pa mor gadarn yw’r data ar y mater hwn?
  • Gwahaniaethau mewn agweddau yn seiliedig ar ryw at gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yng Nghymru, a chyfleoedd ar ei gyfer.
  • Y graddau y mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi’u hanelu at boblogaethau cyfan a/neu grwpiau penodol, a pha effaith y caiff y dull hwnnw ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd.
  • Rhwystrau i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant yng Nghymru, ac enghreifftiau o arfer da wrth sicrhau cynnydd mewn gweithgarwch corfforol, ac ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd, yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
  • Canllawiau gweithgarwch corfforol a sut rydym yn meincnodi ffitrwydd corfforol ymysg plant.
  • Mesur, gwerthuso ac effeithiolrwydd rhaglenni Llywodraeth Cymru a chynlluniau wedi’u hanelu at hyrwyddo gweithgarwch corfforol plant.
  • Gwerth am arian gwariant Llywodraeth Cymru i hyrwyddo ymarfer corff ymysg plant.
  • Rôl ysgolion, rhieni a chyfoedion wrth annog gweithgarwch corfforol, a rôl Chwaraeon Cymru, GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran gwella lefelau gweithgarwch corfforol.

 

Yn dilyn ei waith craffu diwedd ar Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn rhagweld y bydd yr ymchwiliad hwn yn helpu i lywio ei gyfraniad i ddatblygiad y strategaeth gordewdra genedlaethol sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth honno. Bydd yr ymchwiliad hwn hefyd yn ytyried argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y panel annibynnol yn dilyn ei adolygiad o Chwaraeon Cymru.

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 15 Medi 2017. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Polisi dwyieithog

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565