Ymgynghoriad
Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 9 Mawrth 2017 a Dydd Gwener, 5 Mai 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- ARTB 01 - Shelter Cymru (Saesneg yn unig) PDF 117 KB Gweld fel HTML (2) 28 KB
- ARTB 02 - Y Wallich (Saesneg yn unig) PDF 202 KB Gweld fel HTML (3) 15 KB
- ARTB 03 - Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 211 KB Gweld fel HTML (4) 28 KB
- ARTB 04 - Gwasanaeth Tai Torfaen (Saesneg yn unig) PDF 213 KB Gweld fel HTML (5) 9 KB
- ARTB 05 - Canolfan Cydweithredol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 148 KB Gweld fel HTML (6) 8 KB
- ARTB 06 - TPAS (Saesneg yn unig) PDF 351 KB Gweld fel HTML (7) 30 KB
- ARTB 07 - Dinas a Sir Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 106 KB Gweld fel HTML (8) 9 KB
- ARTB 08 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Saesneg yn unig) PDF 222 KB Gweld fel HTML (9) 38 KB
- ARTB 08a - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig) PDF 150 KB
- ARTB 09 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 290 KB Gweld fel HTML (11) 32 KB
- ARTB 10 - Sefydliad Tai Siartredig Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- ARTB 11 - Cartrefi Dinas Casnewydd (Saesneg yn unig) PDF 148 KB Gweld fel HTML (13) 20 KB
- ARTB 12 - Cyngor Sir Ynys Môn (Saesneg yn unig) PDF 246 KB Gweld fel HTML (14) 37 KB
- ARTB 13 - Cymdeithas Dai Merthyr Tudful (Saesneg yn unig) PDF 117 KB Gweld fel HTML (15) 5 KB
- ARTB 14 -Tenantiaid Cymru (Saesneg yn unig) PDF 278 KB Gweld fel HTML (16) 69 KB
- ARTB 15 - Cyngor Sir y Fflint (Saesneg yn unig) PDF 246 KB Gweld fel HTML (17) 24 KB
- ARTB 16 - Peter Milford (Saesneg yn unig) PDF 98 KB Gweld fel HTML (18) 4 KB
- ARTB 17 - Caerphilly County Borough Council (Saesneg yn unig) PDF 148 KB Gweld fel HTML (19) 15 KB
- ARTB 18 - Gwyneth Duggan & Jonathan Neale (Saesneg yn unig) PDF 133 KB Gweld fel HTML (20) 7 KB
- ARTB 19 - Bwrdd Rheoli Tai Ceredigion PDF 99 KB Gweld fel HTML (21) 14 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion
cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol
cysylltiedig ar gael ar dudalen
y Bil ar y wefan.
Cylch gorchwyl
Dyma gylch
gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:
Ystyried –
- egwyddorion cyffredinol y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu
a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni
bwriad datganedig y polisi, sef diogelu cyflenwad tai cymdeithasol rhag
dirywiad pellach yn wyneb y galw uchel a’r prinder tai,
- darpariaethau’r Bil mewn perthynas â’r canlynol:
- y cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu a’r hawl i
gaffael (adrannau 2 i 5);
- diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael (adran 6);
- diddymu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud
grantiau gostyngiad (adran 7);
- y ddyletswydd i roi gwybodaeth i denantiaid a darpar
denantiaid,
- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn
ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn,
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r
Bil, a
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2
o’r Memorandwm Esboniadol).
Canllawiau
Ni ddylai’r
dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a
dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl. Os ydych yn ymateb ar ran
sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Gweler y canllawiau
i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.
Polisi dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn
croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a
Saesneg, neu’r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn
cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno
ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu
hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o
fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn yr hysbysiad
preifatrwydd. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y
manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol