Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol S4C.

Mae'r Pwyllgor yn ystyried y materion a
ganlyn:
- Beth fyddai'n cael ei gyfrif yn gyllid digonol ar
gyfer y sianel. Er enghraifft, pwy ddylai ddarparu'r cyllid, a sut
y dylid ei gyfrifo - a ddylid cael fformiwla ar ei gyfer? Sut y
dylid cefnogi hyn drwy refeniw wedi'i gasglu gan S4C ei
hun?
- Pa gylch gwaith statudol y dylai S4C ei gael. A yw ei
gylch gwaith cyfredol yn addas ar gyfer darlledwr cyfoes? Os nad,
sut y dylid ei newid? Sut ddylai'r cylch gorchwyl adlewyrchu
swyddogaeth ddigidol darlledwyr modern?
- Pa strwythurau y dylai S4C eu cael ar gyfer
llywodraethiant ac atebolrwydd. Er enghraifft, a ddylid datganoli
cyfrifoldeb dros S4C i Gymru?
- Sut berthynas y dylai S4C ei chael â'r
BBC.
- Gwelededd S4C: gan gynnwys materion megis amlygrwydd
S4C ar y ddewislen deledu electronig ac ar setiau teledu
clyfar.