Ymgynghoriad

Masnachfraint Rheilffyrdd a chyflwyno Metro

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a'r cam nesaf yn natblygiad Metro De Cymru.

 

Llun agos o drac rheilffordd sydd wedi rhydu a thrawstiau rheilffordd.

 

Mae'r Pwyllgor yn ystyried y materion a ganlyn:

 

  • Effeithiolrwydd dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datblygu, caffael a gweithredu'r fasnachfraint rheilffyrdd a Metro De Cymru, gan gynnwys risgiau allweddol a sut y gellir eu lliniaru; a'r
  • Blaenoriaethau o ran manyleb y fasnachfraint a darparu seilwaith y Metro er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheilffyrdd yn diwallu anghenion teithwyr nawr ac yn y dyfodol ledled ardal y fasnachfraint, gan gynnig gwerth am arian i deithwyr a threthdalwyr fel ei gilydd.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565