Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich barn am unrhyw un o'r pwyntiau a ganlyn, neu am bob un ohonynt:

  • y dystiolaeth o raddfa problemau unigedd ac unigrwydd ac o'r rhesymau drostynt, gan gynnwys ffactorau fel tai, trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau iechyd a lles;
  • effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn o ran iechyd a lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys a ydynt yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol er enghraifft pobl â dementia;
  • effaith unigrwydd ac unigedd ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ffyrdd o fynd i'r afael â phroblemau unigrwydd ac unigedd  ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys ymyriadau i fynd i'r afael yn benodol â'r problemau a phrosiectau eraill sydd ag amcanion ehangach.  Tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a'r canlyniadau ar gyfer pobl hŷn o ran iechyd a lles;
  • i ba raddau y gallai mentrau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill helpu hefyd i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer pobl hŷn;
  • atebion polisi yng Nghymru ar hyn o bryd a pha mor gosteffeithiol ydynt, gan gynnwys y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru.  Y dull gwaith a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru o ran cynnal seilwaith a chymorth cymunedol, a defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol a grëwyd yn y Pedwerydd Cynulliad, e.e.  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 10 Mawrth 2017. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Polisi dwyieithog

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddIechyd@cynulliad.cymru
Telephone: 0300 200 6565

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu