Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau  yn croesawu eich safbwyntiau ar unrhyw un o'r pwyntiau canlynol:

  • yr effaith ar y modd yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd,
  • effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le, a
  • chanfyddiadau'r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru, yn arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn ar gael drwy gysylltu â'r Clerc.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Hoffai’r Pwyllgor gael ymatebion gan unigolion a sefydliadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

 

Ni ddylai tystiolaeth ysgrifenedig fod yn fwy na phum ochr o bapur A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylid canolbwyntio ar y materion a nodir uchod. Dylid hefyd darllen y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Mae’r dyddiad cau wedi’i ymestyn i 24 Chwefror 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Telephone: 0300 200 6565

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu