Ymgynghoriad

A ddylid newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

Diben yr ymgynghoriad

Mae Comisiwn y Cynulliad am ofyn barn Aelodau'r Cynulliad, rhanddeiliaid eraill ac aelodau'r cyhoedd ynghylch cynnig i newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

http://assembly.wales/SiteCollectionImages/Visiting%20images/header%20image.png 


Pam nawr?

Ym mis Gorffennaf 2016, cafodd y Cynulliad ddadl ynghylch a ddylai newid ei enw. Cytunwyd y dylai enw’r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol. Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben.

Datganolwyd y pŵer i’r Cynulliad newid ei enw yn Neddf Cymru 2017. Mae’r Ddeddf yn gosod fframwaith cyfansoddiadol newydd i Gymru. Y Ddeddf hon yw'r diweddaraf ymhlith nifer o newidiadau i bwerau'r Cynulliad ers ei sefydlu. Mae'r Cynulliad bellach yn gweithio fel unrhyw Senedd arall – gall ddeddfu yng Nghymru a chytuno ar drethi yng Nghymru.    

Mar rhagor o wybodaeth ynghylch y newidiadau i sw​​​yddogaeth a chyfrifoldebau'r Cynulliad ar gael yn nogfen yr ymgynghoriad.


Y camau nesaf

Cafwyd cyfanswm o 2,821 o ymatebion i'r arolwg gan bobl o bob oedran o bob cwr o Gymru.

Dangosodd yr ymgynghoriad fod 61% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.

Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi’r ddeddfwriaeth i roi’r diwygiadau hynny ar waith yn 2018.

Gallwch gael y diweddaraf am waith y Comisiwn drwy ein dilyn ar Twitter yn @CynulliadCymru.


Dyddiad cau: 03 Mawrth 2017

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565