Ymgynghoriad

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r drefn reoleiddio cymdeithasau tai.

 

Er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion a ganlyn:

  • Pa mor effeithiol yw’r fframwaith rheoleiddiol presennol ar gyfer cymdeithasau tai sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru;
  • Effeithiolrwydd ac ansawdd y trefniadau llywodraethu;
  • A yw'r drefn reoleiddio bresennol yn ddull effeithiol o reoli a lliniaru risgiau drwy’r sector cyfan;
  • A yw’r trefniadau cyd-reoleiddio yn effeithiol o'u rhoi ar waith;
  • Lefelau tâl yr uwch-swyddogion sy'n gweithio i gymdeithasau tai.

 

Title: Llun o dai - Description: Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai. Rhes o dai teras gydag enw’r ymchwiliad o flaen y llun.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau i dystion sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddArchwilio@Cynulliad.Cymru

Dylai unrhyw sylwadau ddod i law erbyn 6 Ionawr 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld yma. Cofiwch ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (0300 200 6565).

 

Dogfennau ategol