Ymgynghoriad

Ymchwiliad i recriwtio meddygol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pwyntiau canlynol neu bob un ohonynt:

  • Capasiti'r gweithlu meddygol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, yng nghyd-destun newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau a datblygu modelau newydd o ofal.
  • Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol.
  • Y ffactorau sy'n dylanwadu ar recriwtio a chadw meddygon, gan gynnwys unrhyw faterion penodol mewn arbenigeddau penodol neu ardaloedd daearyddol.
  • Datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd recriwtio meddygol, gan gynnwys y graddau y mae rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu cynnwys, a dysgu o ymgyrchoedd blaenorol ac arfer da mewn mannau eraill.
  • Y graddau y mae prosesau/arferion recriwtio yn gydgysylltiedig, yn cynnig gwerth am arian ac yn sicrhau gweithlu meddygol cynaliadwy.

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 18 Tachwedd 2016. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Polisi dwyieithog

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565