Ymgynghoriad
Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 14 Medi 2016 a Dydd Gwener, 21 Hydref 2016
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- LTTA 01 Y Gofrestrfa Tir (Saesneg yn Unig) PDF 656 KB
- LTTA 02 Geldards LLP (Saesneg yn Unig) PDF 479 KB
- LTTA 03 Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 401 KB
- LTTA 04 Cyngor Benthycwyr Morgeisi (Saesneg yn Unig) PDF 491 KB
- LTTA 05 Sefydliad Siartredig Trethiant (Saesneg yn Unig) PDF 625 KB
- LTTA 06 Deloitte (Saesneg yn Unig) PDF 1 MB
- LTTA 07 Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl (Saesneg yn Unig) PDF 868 KB
- LTTA 08 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (Saesneg yn Unig) PDF 332 KB
- LTTA 09 Eversheds (Saesneg yn Unig) PDF 258 KB
- LTTA 10 Cymdeithas y Cyfreithwyr (Saesneg yn Unig) PDF 383 KB
- LTTA 11 Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai (Saesneg yn Unig) PDF 423 KB
- LTTA 12 Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (Saesneg yn Unig) PDF 438 KB
- LTTA 13 Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 318 KB
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Cynhaliodd
y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol
y Bil Treth Trafodiadau Tir
a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
Cylch Gorchwyl
i. egwyddorion cyffredinol y Bil;
ii. unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau
hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
iii. a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio
o’r Bil
iv. goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2
o’r Memorandwm Esboniadol);
v. priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru
wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm
Esboniadol).
Gofynnwyd i'r ymatebwyr hefyd ystyried rhannau
unigol y Bil:
i. Rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil;
ii. Gweithredu bandiau a chyfraddau treth a sut i
sicrhau y gallant ddelio â newidiadau dilynol a newidiadau eraill ledled y DU;
iii. Agwedd tuag at osgoi treth – gan gynnwys sicrhau
bod llif gwybodaeth briodol gan drethdalwyr, cynghorwyr ac Awdurdod Cyllid
Cymru yn ogystal â darparu unrhyw ddulliau clirio a sicrhau adnoddau digonol ar
gyfer Awdurdod Cyllid Cymru;
iv. Yr eithriadau arfaethedig;
v. Y gostyngiadau arfaethedig;
vi. Sut caiff trafodion preswyl a dibreswyl eu
diffinio a'u trin;
vii. Sut caiff cwmnïau, ymddiriedolaethau, sefydliadau
dielw a phartneriaethau eu trin o ran darpariaethau a gostyngiadau;
viii. Addasrwydd y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn y
Bil (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);
ix. Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2
o’r Memorandwm Esboniadol).
Datgelu gwybodaeth
Mae gan y Cynulliad bolisi
ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y
manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled
o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc.
Dogfennau ategol