Ymgynghoriad

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 28 Mehefin 2016 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a materion polisi, gan gynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Er mwyn helpu i lywio ei flaenraglen waith, roedd y Pwyllgor yn casglu eich syniadau chi ynghylch beth y dylai'r Pwyllgor ei flaenoriaethau yn y Pumed Cynulliad.  Yn benodol, roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed beth oedd meysydd blaenoriaeth allweddol y dylid eu hystyried yn y 12 i 18 mis oedd yn dilyn yn eich barn chi.

Rydym wedi cael rhai trafodaethau cychwynnol anffurfiol hefyd ac wedi nodi nifer o feysydd y gellid eu cynnwys yn ein rhaglen waith hirdymor.  Nodir y rhain isod.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 2 Medi 2016.

Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Gallai'r ymchwiliad hwn edrych ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac asesu effaith polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o ran integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Amseroedd aros

Ar hyn o bryd, mae gan GIG Cymru ystod o dargedau amseroedd aros, gan gynnwys mynediad i driniaeth neu apwyntiadau ar gyfer cleifion mewnol, cleifion allanol ac achosion dydd; gwasanaethau diagnostig a therapi; triniaeth ar gyfer canser; a gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae rhai gwasanaethau sydd o dan bwysau lle mae'r amseroedd aros yn dal yn uchel, fel gwasanaethau diagnostig a therapi a rhai meysydd arbenigol fel gwasanaethau orthopedig. Gallai'r Pwyllgor ystyried amseroedd aros a chraffu'n fanylach ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r meysydd sydd o dan bwysau.

Gofal sylfaenol

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru Gwasanaethau gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018 (Chwefror 2015) yn cydnabod y galw cynyddol am wasanaethau'r GIG, a gofal sylfaenol yn benodol, sy'n digwydd am fod gennym boblogaeth sy’n byw’n hirach, ond gyda lefel uwch o salwch cronig a chyflyrau hirdymor. Cydnabu Llywodraeth flaenorol Cymru fod angen gweithredu i newid y cydbwysedd o ran gofal ac adnoddau – gan gynnwys y gweithlu a chyllid – allan o'r ysbytai i'r gymuned er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty oni bai bod hynny'n briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu rôl 'clystyrau' – sef grwpiau o feddygon teulu sy'n gweithio gyda gweithwyr gofal ac iechyd proffesiynol eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol – fel ffordd o drawsnewid gofal sylfaenol.

Effeithlonrwydd yn y GIG ac arferion rheoli modern

Mae cyrff fel y Nuffield Trust a'r King's Fund wedi gwneud gwaith sylweddol sy'n canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd gofal iechyd, gan edrych ar ddysgu ac arfer da yn y DU a thu hwnt. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi bod angen sicrhau arbedion effeithlonrwydd parhaus hefyd. Gallai'r Pwyllgor edrych ar y potensial i bobl sydd â'r sgiliau priodol o fyd busnes a byd diwydiant weithio gyda GIG Cymru i chwilio am gyfleoedd i wella effeithlonrwydd, o ran gwasanaethau cymorth a gwasanaethau clinigol.

Gwasanaethau newyddenedigol

Cyflwynodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad adroddiad ar wasanaethau newyddenedigol. Gallai'r Pwyllgor gynnal ymchwiliad i fonitro cynnydd, gan edrych yn benodol ar bryderon parhaus ynghylch staffio a chynaliadwyedd gwasanaethau.

Defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn ac Adolygiad Flynn ill dau wedi tynnu sylw at bryderon am y defnydd amhriodol o gyffuriau gwrthseicotig i reoli symptomau ymddygiadol a seicolegol pobl sydd â dementia. Gallai'r Pwyllgor geisio asesu maint y broblem, ac edrych ar atebion posibl.

Gwasanaethau ambiwlans

Gallai'r Pwyllgor fynd ar drywydd gwaith y Pwyllgor blaenorol ar wasanaethau ambiwlans er mwyn mesur i ba raddau y mae gwelliannau'n cael eu gwneud, ac i archwilio canlyniadau'r model ymateb clinigol newydd (a dreialwyd am 12 mis o fis Hydref 2015).

Unigrwydd ac unigedd ymhlith pobl hŷn

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud bod angen i ni gydnabod bod unigrwydd ac unigedd yn faterion allweddol ym maes iechyd cyhoeddus. Gallai'r Pwyllgor ystyried y mater gyda'r nod o wella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o oblygiadau unigrwydd ac unigedd o ran lles ac iechyd pobl hŷn.

Dibyniaeth ar hapchwarae

Yn eu hadroddiad ar y cyd A losing bet?, dywedodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Alcohol Concern Cymru fod yn rhaid dysgu gwersi o waith ymchwil ar alcohol a'u cymhwyso i faterion hapchwarae. Gallai'r Pwyllgor gynnal ymchwiliad yn edrych ar ymwybyddiaeth o ddibyniaeth ar hapchwarae, y gwasanaethau cymorth a ddarperir a'r camau y gellid eu cymryd i leihau niwed.

Chwaraeon ac iechyd y cyhoedd

Mae Arolwg Iechyd Cymru 2015 yn dangos bod lefelau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu ers arolwg 2014, gyda 24 y cant o oedolion yn ordew a 59 y cant o oedolion dros eu pwysau neu'n ordew. Nodwyd bod 58 y cant o oedolion wedi gwneud o leiaf 150 munud o weithgarwch corfforol cymedrol, mewn blociau o 10 munud neu fwy, yn yr wythnos flaenorol.

O gofio bod chwaraeon yn rhan o'r portffolio iechyd, gallai'r Pwyllgor edrych ar y manteision iechyd posibl a rôl GIG Cymru wrth hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gyffredinol.

Datgelu gwybodaeth a chanllawiau

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi ystyried yn ofalus polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl fel y’i nodir uchod. Gweler y canllawiau i dystion sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565