Ymgynghoriad

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnal ymchwiliad ôl-ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

Cylch gorchwyl

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

 

  • I ba raddau y mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gwella o ganlyniad i'r rhwymedigaethau yn y Ddeddf?
  • Beth yw'r dulliau mwyaf effeithiol o gasglu safbwyntiau a phrofiadau goroeswyr? A oes trefniadau ar waith i gasglu'r profiadau hyn, ac i ba raddau y caiff y wybodaeth ei defnyddio i helpu fel sail i weithredu darpariaethau'r Ddeddf?
  • A yw'r rhai sy'n goroesi camdriniaeth yn dechrau profi ymatebion gwell gan awdurdodau cyhoeddus o ganlyniad i'r Ddeddf, yn enwedig y rhai sydd angen gwasanaethau arbenigol?
  • A oes gan y Cynghorydd Cenedlaethol ddigon o bŵer ac annibyniaeth ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu?
  • I ba raddau y mae'r canllaw arfer da i berthnasau iach yn dylanwadu'n llwyddiannus ar y gwaith o ddatblygu dull ysgol gyfan i herio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 16 Medi 2016.

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565