Ymgynghoriad

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 28 Mehefin 2016. Mae gan y Pwyllgor gylch gwaith eang sy'n cynnwys llawer o feysydd polisi pwysig, gan gynnwys:

 

  • llywodraeth leol;
  • tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch;
  • trechu tlodi;
  • cyfle cyfartal a hawliau dynol.

 

Y tymor byr

Ar gyfer y tymor byr, rydym wedi cytuno i ymgymryd â gwaith craffu ar ôl deddfu ar y modd y mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn cael ei gweithredu. Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn nhymor yr hydref, a byddwn yn ysgrifennu ar wahân i geisio barn ar y mater.

 

Y tymor canolig a'r tymor hwy

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn paratoi ein rhaglen waith ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hwy. Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cwmpasu ein cylch gwaith eang, ac yn ymateb hefyd i faterion sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd wrth iddynt godi.

 

I'n helpu yn ein gwaith cynllunio, rydym yn awyddus i glywed oddi wrth randdeiliaid yn ystod yr haf am y materion y dylem ni, yn eich tyb chi, fod yn canolbwyntio arnynt. Byddwn yn ystyried eich ymatebion yn gynnar yn yr hydref.

Rydym wedi cael trafodaeth gychwynnol, anffurfiol, gan nodi nifer o feysydd y byddwn am eu cynnwys o bosibl yn ein rhaglen ar gyfer y tymor hwy.  Fe nodir y rhain yn y ddogfen ymgynghori, a byddai'n ddefnyddiol cael eich barn arnynt.

Anfonwch eich sylwadau at: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru erbyn dydd Gwener 2 Medi 2016.

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo'r ymchwiliad. Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion, yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan unigolion a sefydliadau.

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Datgelu gwybodaeth

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi ystyried yn ofalus polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol