Ymgynghoriad

Etifeddiaeth Pwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad

Diben yr ymgynghoriad

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor Cyllid yn asesu ei effaith a pha mor effeithiol fu ei waith yn ystod y Cynulliad hwn.

Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Mehefin 2011 a'i rôl yw cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y mae Comisiwn y Cynulliad neu Weinidogion Cymru yn defnyddio adnoddau, ac yn benodol cyflwyno adroddiad yn ystod cylch blynyddol y gyllideb. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi datblygu nifer o ffrydiau gwaith dros y pum mlynedd diwethaf sy'n cynnwys:

  • Gwella'r drefn o graffu ar y gyllideb a datblygu prosesau cyllidebol
  • Craffu ar effaith ariannol deddfwriaeth
  • Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru, o safbwynt llywodraethu, fel a ragnodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
  • Ymchwiliadau

Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu ym mis Ebrill 2016 cyn etholiadau'r Cynulliad, ac fel rhan o'i etifeddiaeth, bydd y Pwyllgor yn edrych yn ôl ar ei raglen waith. Bydd yn amlygu meysydd ar gyfer rhagor o waith craffu yn y Pumed Cynulliad ac yn awgrymu ffyrdd y gall y Pwyllgor Cyllid nesaf ymgysylltu'n effeithiol â'i randdeiliaid.

Arolwg

I gynorthwyo yn hyn o beth, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar eich profiad o weithio gyda'r Pwyllgor, gan gynnwys ei ffyrdd o weithio, y gwaith y mae wedi'i wneud, a'r effaith a gafodd. Mae’r Pwyllgor wedi paratoi arolwg.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565