Ymgynghoriad

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno craffu ar y Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) Cymru 2015 sydd i’w gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Cyhoeddwyd y Rheoliadau drafft gan Lywodraeth Cymru ar 8 Mai, a bydd cyfnod craffu o 60 diwrnod cyn caiff cynnig i’w cymeradwo cael ei hystyried gan y Cynulliad. Yn ystod y cyfnod yma, byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi derbyn barn rheini sydd â diddordeb ar y Rheoliadau drafft. Dylid ystyried y Rheoliadau drafft ynghŷd â’r Côd Ymarfer ar gyfer weithredu swyddogaethau’n ymwneud â rhan 4 (Diwallu Anghenion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 [Saesneg yn unig] (PDF, 707KB)

 

Gofynnodd y Pwyllgor am safbwyntiau ar y canlynol:

  • a fydd y Rheoliadau drafft a’r Cod Ymarfer fel y’u drafftiwyd:
    • yn cyflawni’r amcanion a ddymunir gan y Ddeddf;
    • yn briodol i sicrhau’r mynediad cywir at ofal a chymorth i bobl sydd ei angen yng Nghymru;
    • yn mynd i’r afael yn ddigonol â phryderon a godwyd yn flaenorol;  
  • a yw hi’n debygol y bydd unrhyw rwystrau i weithredu’r darpariaethau; a
  • beth fydd canlyniadau tebygol y Rheoliadau drafft a’r Cod Ymarfer i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr y presennol a’r dyfodol. 

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Mai 2015.

 

Yn dilyn y sesiynau tystiolaeth lafar ar 11 Mehefin 2015, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i amlygu ei bryderon ynghylch y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 4 (diwallu anghenion).

 

Llythyr y Pwyllgor

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 327 KB) ar 7 Gorffennaf 2015. Cafodd y Pwyllgor  ymateb (PDF, 37 KB) i’w lythyr ym mis Gorffennaf 2015.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl ar y rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Gorffennaf. Cymeradwywyd y Rheoliadau gan y Cynulliad.

 

Ym mis Hydref 2015, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (llythyr [PDF, 80KB], atodiad (Saesneg yn unig) [PDF, 455KB]) am y newidiadau i’r Codau Ymarfer ynghylch Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565