Ymgynghoriad

Trafodaeth ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn Sgiliau

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru trafodaeth ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn Sgiliau.

 

Cylch Gorchwyl

Dechreuwyd rhoi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau (pdf 863KB) ar waith ddechrau mis Ebrill 2015:

  • I ba raddau y bydd y polisi buddsoddi ar y cyd yn cynorthwyo i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru yn datblygu mantais gystadleuol o ran creu gweithlu cynhyrchiol a medrus”?
  • A fydd cyflogwyr yn arfer yr egwyddor o fuddsoddi ar y cyd? A yw’n debygol y bydd lefelau hyfforddiant yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i hyn?
  • Pa effaith (os o gwbl) y bydd rhagor o fuddsoddiad ariannol gan gyflogwyr yn ei chael ar ansawdd cyrsiau hyfforddi a pha mor berthnasol ydynt i’r farchnad lafur?

 

Fel rhan o’r Cylch Gorchwyl drafft hwn, efallai y bydd y Pwyllgor am ystyried:

  • A ddylai unrhyw hyfforddiant ychwanegol fod wedi’i eithrio o fuddsoddi ar y cyd, er enghraifft, ar gyfer busnesau newydd?
  • A oes dulliau eraill o rannu costau hyfforddiant, er enghraifft ardoll hyfforddi?
  • Defnyddio cyllid Ewropeaidd.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.